Archeolegwyr yn darganfod cerbyd Celtaidd yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
OlwynionFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i ddwy olwyn heaern oedd yn rhan o gerbyd Celtaidd

Mae archeolegwyr wedi darganfod rhannau o gerbyd Celtaidd ar dir fferm yn Sir Benfro.

Roedd dwy olwyn haearn a chleddyf o'r cerbyd yn y pridd, yn ogystal ag arteffactau efydd.

Mae union safle'r darganfyddiad yn gyfrinachol, ond ar yr un tir y llynedd fe gafodd gwrthrychau addurnol eu darganfod gan ddefnyddiwr synhwyrydd metel.

Mae Amgueddfa Cymru yn gwarchod y darnau o'r cerbyd ac yn gobeithio eu harddangos yn y dyfodol.

Mae'r cerbyd yn ddarganfyddiad sylweddol, ac roedd nifer yn gobeithio am ganfyddiad o'r fath wedi i Mike Smith ddod o hyd i sawl gwrthrych sy'n gysylltiedig â cherbyd ym mis Chwefror 2018.

Yn dilyn ymchwiliad cychwynnol ym mis Mehefin 2018 gan archeolegwyr o Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, cafodd y safle ei gloddio ym mis Mawrth ac Ebrill eleni.

Mae Amgueddfa Cymru, Cadw a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi'r gwaith yn ariannol.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae cleddyf Celtaidd hefyd yn rhan o'r darganfyddiad

Daeth y tîm o hyd i arteffactau efydd, olwynion haearn y cerbyd a chleddyf haearn, ac yn ôl Adam Gwilt, prif guradur archeoleg gyn-hanesyddol Amgueddfa Cymru, mae hwn yn "ddarganfyddiad arwyddocaol".

"Dyma'r cerbyd rhyfel cyntaf i'w ganfod yng Nghymru, ac yn wir yn ne Prydain," meddai.

"Câi cerbydau rhyfel ymarferol a seremonïol eu defnyddio i arddangos pŵer a hunaniaeth eu perchnogion a llwythau ym Mhrydain ar ddiwedd Oes yr Haearn, fel mae'r addurniadau cain yn awgrymu.

"Ychydig a wyddom am y perchennog, ond mae'n debyg bod y cerbyd rhyfel hwn yn berchen i ddyn neu ddynes oedd â statws uchel yn eu llwyth neu gymuned."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Mike Smith o hyd i safle'r cerbyd ym mis Chwefror

'Darganfyddiad unigryw'

Cafodd y gwrthrychau addurnol a ddarganfuwyd gan Mr Smith eu datgan yn drysor gan gwest crwner ym mis Ionawr 2019 ac ar hyn o bryd maen nhw dan ofal yr Amgueddfa Brydeinig.

Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio prynu'r gwrthrychau er mwyn eu harddangos ochr yn ochr ag olwynion a chleddyf y cerbyd yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Dywedodd yr Athro Kate Roberts, prif arolygydd henebion Cadw, y byddai'r cerbyd yn helpu ein dealltwriaeth o hanes Cymru.

"Mae darganfyddiad archeolegol unigryw fel hyn yn gwneud i ni ddychmygu tybed pwy oedd yn gyrru'r cerbyd ac am y byd y buont yn byw ynddi," meddai.

"Drwy astudio'r arteffactau hyn rydym yn gobeithio dysgu mwy am gyfnod pan oedd newid mawr yn siâp yr Ymerodraeth Rufeinig yn ysgubo ar draws Cymru."