Gweinidog wedi prynu 12 o hen gapeli yng nghymoedd y de

  • Cyhoeddwyd
Y Parchedig Robert Stivey
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Robert Stivey wedi gwario £200,000 o'i etifeddiaeth ar brynu'r dwsin o adeiladau

Mae Gweinidog wedi prynu 12 o gapeli gwag yng nghymoedd y de gyda'r bwriad o'u hailagor fel mannau i addoli.

Yn ôl y Parchedig Robert Stivey, mae e wedi gwario £200,000 hyd yn hyn ar brynu chwe chapel yng Nghwm Cynon, tri yn y Rhondda a thri arall yn ardal Merthyr Tudful.

Y capel diweddaraf iddo ei brynu ydy Capel Calfaria yn Aberdâr, a fu ar un adeg yn un o gonglfeini'r adfywiad Cristnogol yn yr oes Fictoriaidd, ar gost o £25,000.

Yn ôl y gweinidog, gweithred o ffydd ydy'r ymgyrch.

"Nifer o flynyddoedd yn ôl fe fues i ar ymweliad â'r cymoedd ac mi sylwais fod nifer o gapeli unai wedi cau neu'n cael eu troi'n fflatiau, neu hyd yn oed yn cael eu dymchwel, ac mi feddyliais ar y pryd ei fod e'n beth gwael iawn", meddai.

"Teimlais fy mod wedi cael fy ngalw i wneud rhywbeth am hyn... mae'n rhaid i'r capeli yma gael eu hachub a'u hailagor a chael eu defnyddio eto ar gyfer eu pwrpas gwreiddiol."

Mae'r Parch Stivey wedi defnyddio etifeddiaeth oddi wrth ei fam er mwyn prynu'r capeli, ond mae'n cydnabod efallai na fyddai modd iddo eu hail-agor i gyd.

"Efallai na fydd modd i mi eu hailagor i gyd ond o leiaf maen nhw wedi cael eu hachub rhag cael eu dymchwel.... ac maen nhw'n barod i unrhyw weithiwr Cristnogol arall i efallai ddod yma i barhau â'r gwaith unwaith y bydda i wedi gorffen," meddai.

Dywedodd hefyd ei bod hi'n haws prynu adeilad os yw wedi ei gofrestru am fod datblygwyr yn tueddu i brynu capeli lle nad oes rhwystr i'w datblygu.

"Mae'r mwyafrif angen ychydig bach o waith twtio, ac mae eraill a phroblemau hirdymor fel tyllau yn y to, ond mae modd achub y cyfan, dwedwn i.

"Fe allai rhai ailagor fory pe bai rhaid."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg roedd gan gapel Calfaria yn Aberdâr dros fil o aelodau

Canu yng Ngalfaria?

Cafodd Capel Calfaria, Aberdâr, ei godi yn 1811. Yma yr oedd un o safleoedd amlycaf yr adfywiad Cristnogol yn y cyfnod Fictoraidd ac yn ei anterth roedd ganddi dros fil o aelodau.

Fe gaeodd y capel ei drysau yn 2012, ac ers hynny mae wedi bod yn wag.

"Rydyn ni'n gobeithio ei ailagor yn y dyfodol. Dwi ddim yn gwbod pryd, efallai y flwyddyn nesaf, ond mae'n adeilad bendigedig ac mae'n haeddu cael ei ailagor a chaniatau i bobl addoli Duw unwaith eto.

"Dwi ddim yn meddwl ein bod ni yn y cyfnod adfywio eto fyddai'n llenwi'r capeli 'ma, ond mae yna bobl allan yna sy'n fodlon gwrando ar yr efengyl.

"Dwi ddim yn gweld pam na allwn ni ddechrau'n fach ac adeiladu dros y blynyddoedd nesaf."