Aelod olaf am gadw drysau Capel y Cwm ar agor
- Cyhoeddwyd
Cafodd Eirian Jones ei dderbyn yn aelod yng Nghapel y Cwm gorllewin Sir Gâr yn 17 oed.
Roedd ei ddad-cu a'i fam yn aelodau yno tra bod Eirian wedi bod yn mynd i'r Ysgol Sul mewn capel arall.
Ond roedd newydd basio ei brawf gyrru ac yn amau bod ei fam yn gweld cyfle i gael lifft i'r oedfa bob Sul.
Pryd hynny, yng nghanol y 1960au, roedd aelodaeth y capel yn weddol gryf.
"Pan ges i fy nerbyn, ro'dd tua 30 o aelodau ar lyfrau y capel.
"O'dd y capel yn bwysig iawn i bobl adeg 'na -dim cymaint nawr achos ma' pethe eraill yn tynnu sylw bobl ond pryd hynny, y capel odd popeth."
Mae Eirian yn cadw gwartheg biff ar fferm Waungochen ger pentre' Abernant yn Sir Gâr ac erbyn hyn, fe yw aelod ola' Capel y Cwm.
Fe yw'r trysorydd a'r ysgrifennydd hefyd. Does dim gweinidog ers i'r un diwethaf ymddeol ar ddechrau'r 1980au ond ma' Eirian yn denu pregethwyr gwadd ac yn llwyddo i drefnu oedfa unwaith y mis ar gyfer llond llaw o ffrindiau a chymdogion.
"Ni'n cael oedfa bob mis a ma' tŷ gyda ni i rentu mas - ma' hwnna'n dod a bach o arian i mewn ac fel 'na ni'n gallu cadw i fynd"
Mae aelodaeth capeli wedi bod yn dirywio yng Nghymru ers degawdau ond peth anghyffredin iawn yw capel ag ond un aelod.
Mae Capel y Cwm yn perthyn i enwad y Bedyddwyr ac yn ôl y ffigurau diweddara o Undeb Bedyddwyr Cymru, mae'r ystadegau yn dweud cyfrolau.
Ym 1960 roedd 'na 70,282 o bobl yn aelodau capeli Bedyddwyr yng Nghymru, erbyn y flwyddyn 2000 roedd hynny wedi cwympo i ychydig dan 21,000 a llynedd roedd 9,500 o aelodau.
Ond yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru, Judith Morris, ma' 'na obaith tu ôl yr ystadegau.
"Ma' capel gydag un aelod yn codi cwestiwn diddorol - sut ma' capel yn gallu parhau gydag un aelod achos ma' capel yn cynnig cymuned, yn dod a phobl at ei gilydd ond ma' be sy'n digwydd yng Nghapel y Cwm yn grêt achos mewn amser ble ma unigrwydd yn broblem gynyddol, dyma enghraifft o gapel yn gwneud y pethe bychain ac yn gwneud gwir wahaniaeth"
Fe fydd yna oedfa yng Nghapel y Cwm fis nesa yn ôl yr arfer.
Mae ôl treigl amser i weld yno erbyn hyn - ambell i we pry cop a ffenest wedi torri ond mae'r adeilad yn gadarn ac Eirian yn benderfynol o gadw'r drws ar agor.
Bu farw ei fam ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae Eirian yn cadw ei aelodaeth i fynd er cof amdani.
"Tra 'bo fi'n gallu cadw fynd a tra bod pobl yn dod mi gadw'n ni'n 'mhlan - mae'n mynd i ddod i ben rhyw ddiwrnod ond ma'r drws dal ar agor.
"Ma' Capel y Cwm yn golygu llawer i fi - dyma nghatre"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2019
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd7 Mai 2019
- Cyhoeddwyd19 Mai 2019