Colled o 20% i Recordiau Sain wedi newid breindaliadau
- Cyhoeddwyd
Mae Recordiau Sain wedi dweud wrth Cymru Fyw fod newidiadau i'r ffordd y mae breindaliadau yn cael eu hamcangyfrif yn "andwyol" i'w busnes.
Mae'r asiantaeth breindaliadau PPL wedi cwtogi faint maen nhw'n ei dalu pan fydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar rhai gorsafoedd, gan gynnwys Radio Cymru a Radio Wales.
Mae'r cwmnïau recordiau yn dweud fod hyn wedi achosi gostyngiad o 20% i'w hincwm darlledu.
Dywedodd PPL fod y newid yn cywiro gordaliadau'r gorffennol, a'u bod yn trafod y sefyllfa gyda Sain.
'Diystyru'r labeli bach'
Mae darlledwyr fel y BBC yn talu swm blynyddol i PPL, sy'n dosbarthu arian i'w haelodau pan fydd eu gwaith yn cael ei ddarlledu.
Dywedodd Prif Weithredwr Sain, Dafydd Roberts, doedd na "ddim rhybudd o gwbl" gan PPL o'r newidiadau.
"Maen nhw wedi dechrau defnyddio maint y gynulleidfa fel rhan o'r polisi dosbarthu," meddai.
"Wrth newid polisi fel hyn, dyle fod PPL wedi dadansoddi beth fyddai effaith y newid.
"Tasa nhw wedi gwneud hynny, fysa nhw wedi sylweddoli faint o effaith mae'n gael ar labeli bach fel Sain.
"Mae nhw wedi diystyru'r labeli bach sydd yn gweithio yn bennaf trwy iaith leiafrifol."
Efallai o ddiddordeb ar Ddydd Miwsig Cymru
Mewn cyfweliad â Cymru Fyw, dywedodd Mr Roberts y dylai PPL gyflwyno'r newidiadau yn raddol, os does dim modd dychwelyd i'r hen drefn.
"Mae rhywun yn cael rhyw syniad dros y blynyddoedd be' ddylai'r incwm fod, ac yn naturiol mae rhywun yn cyllidebu ar gyfer hynny. Felly pan mae'n digwydd yn sydyn yna mae yn andwyol."
Beth sydd wedi newid?
Fel arfer yr asiantaeth breindaliadau PRS sy'n cynrychioli cyfansoddwyr, ond yng Nghymru, yn dilyn newidiadau i'r fformiwla daliadau achosodd gostyngiad yn yr incwm i gyfansoddwyr yn yr iaith Gymraeg, cafodd asiantaeth newydd, Eos, ei greu yn 2012.
Mae PPL yn amcangyfrif faint i dalu yn ôl beth sy'n cael ei ddarlledu, a maint y gynulleidfa oedd yn gwrando.
Yn 2018, newidiodd yr asiantaeth y fformiwla, gyda gostyngiad yn yr arian sy'n cael ei dalu am gerddoriaeth ar orsafoedd radio gyda chynulleidfaoedd gymharol fach.
Mae'r rhain yn cynnwys gorsafoedd cenedlaethol y BBC yng Nghymru, Radio Cymru a Radio Wales.
Mae cerddoriaeth Recordiau Sain yn cael ei ddarlledu yn aml ar Radio Cymru.
Dywedodd Dafydd Roberts y dylai PPL edrych ar benderfyniad tribiwnlys o'r cyfnod pan gafodd Eos ei greu.
Canfyddiad y tribiwnlys oedd bod cerddoriaeth o ieithoedd lleiafrifol y Deyrnas Unedig yn fwy o werth i orsafoedd fel Radio Cymru.
"Dylai PPL edrych ar yr achos yna. Mae'r BBC wedi derbyn bod cerddoriaeth leiafrifol gynhenid ym Mhrydain 'efo gwerth ychwanegol iddo fe ar y gorsafoedd perthnasol hynny.
"Ac mae'r un egwyddor yn berthnasol i PPL."
Ychwanegodd Mr Roberts fod y BBC wedi bod yn "gefnogol iawn" o'r sefyllfa bresennol gyda PPL, a bod y darlledwr wedi codi'r mater gyda'r asiantaeth.
Mewn datganiad dywedodd PPL fod problem gyda data ar gynulleidfaoedd rhwng 2014 a 2017 yn golygu fod y ffioedd anghywir wedi eu talu am rhai darllediadau.
Dywedodd yr asiantaeth: "Rydym wastad yn ymwybodol o'r gwahanol ffyrdd gall ein polisïau dosbarthu effeithio ein haelodau, a dydyn ni ddim yn gwneud newidiadau ar chwarae bach.
"Ond rydym wedi ymrwymo i fod yn deg ac yn gywir yn ein dosbarthiadau, a dyna'r rheswm am y cywiriad, gafodd ei gymeryd llynedd.
"Mae ein haelodau, a'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig iddyn nhw, yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn siarad gyda Sain ynglŷn â'r pryderon. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2018
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2017