Fiona Collins yn ennill teitl Dysgwr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Fiona Collins o Garrog, Sir Ddinbych sydd wedi ennill teitl Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.
Yn gyn-athrawes, mae Ms Collins yn gweithio fel chwedleuwraig ers nifer o flynyddoedd, gan adrodd chwedlau a hanesion i blant ac oedolion.
Y tri arall oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol oedd Paul Huckstep o Benmachno, Grace Emily Jones o Lanfihangel Glyn Myfyr, a Gemma Owen o Faenan.
Eleni, am y tro cyntaf, fe gafodd yr enillydd ei gyhoeddi yn ystod seremoni ar lwyfan y Pafiliwn nos Fercher.
Y beirniaid eleni oedd Daloni Metcalfe, Janet Charlton ac Emyr Davies.
Mae Ms Collins yn byw yng Ngharrog ers dros 15 mlynedd, ac wedi sefydlu Caffi Stori yn yr ardal, ble daw criw ynghyd yn fisol i chwedleua, adrodd barddoniaeth neu ganu.
Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 1999, a dywedodd ei bod wedi teimlo'n ddigon hyderus i ymgeisio yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Bydd Ms Collins yn derbyn tlws yn rhoddedig gan Gari Bryn Jones, Pentrefoelas, a gwobr ariannol £300 gan Soroptimist Rhyngwladol Llandudno.
Fe fydd Ms Collins hefyd yn cael ei gwahodd i fod yn aelod o'r Orsedd.
Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn tlysau sydd hefyd yn rhoddedig gan Gari Bryn Jones a £100 yr un, gyda'r arian wedi'i gyflwyno gan ganghennau Merched y Wawr Capel Garmon a Phenmachno a Gwawr Dafydd, Conwy.
Fe wnaeth Ms Collins ddiolch i'w chyd-ymgeiswyr, a'r beirniaid, ond dywedodd bod ei diolch mwyaf i bawb sy'n helpu dysgwyr i siarad yr iaith.
"Diolch i chi, y Cymry Cymraeg, achos pan 'da chi'n clywed ni yn lladd iaith y nefoedd, 'da chi'n llawn amynedd," meddai.
"Hebddo chi, dydyn ni ddim yn gallu mynd ymlaen.
"'Da ni yma i helpu sicrhau dyfodol i iaith y nefoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd1 Awst 2019