Cariad yr ysgogiad i ddysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol fe fydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi. Pedwar sydd wedi dod i'r brig eleni.
Bu BBC Cymru yn eu holi ac yn gofyn iddynt pam eu bod wedi penderfynu dysgu'r iaith.
Cariad oedd yr ysgogiad i ddysgu Cymraeg ar gyfer Gemma Owen o Faenan ger Llanrwst.
"Bai fo!" meddai gan gyfeirio at ei gŵr Rhydian Owen. Fe wnaeth y ddau gyfarfod yn 2008 a'r flwyddyn ganlynol y dechreuodd y cwrs Say Something in Welsh.
Mae'n dweud bod yr adnodd yn defnyddio iaith bob dydd, oedd yn bwysig iddi, ond yn cydnabod bod dysgu iaith yn heriol.
"Mi oedd o'n anodd i ddechra' achos mae'n cymryd dipyn o amser i cael digon o hyder i actually dechrau siarad efo pobl yn Gymraeg a mae'n anodd i gael y geiriau hefyd, buildio'r vocabulary fyny.
"Ond unwaith ti 'di dechrau, mae'n dod wedyn."
Am ei bod yn gweithio fel parafeddyg mae'n siarad Cymraeg bob dydd.
"Mae'r pobl dwi'n mynd at bob dydd yn siarad Cymraeg. Ti medru gweld maen nhw yn falch iawn i gweld pan mae rhywun Cymraeg yn troi fyny. Maen nhw yn medru siarad yn yr iaith naturiol iddyn nhw."
Mae ei gŵr yn "falch" ohoni gan ddweud bod dod "fwy na heb yn rhugl" yn dipyn o gamp.
Ond sut mae'n teimlo i wybod ei bod hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth eleni?
"Dwi methu coelio fo ond dwi mor falch a dwi'n edrych ymlaen i cael yr wythnos yma, i mwynhau a cyfarfod pobl a defnyddio'r iaith, siarad efo pobl, jest edrych ymlaen rili."
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni Dysgwr y Flwyddyn ar lwyfan y Pafiliwn, nos Fercher 7 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2019