Carwyn Jones: 'Cymru ddim rhy dlawd i fod yn annibynnol'
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones wedi dweud yn ystod sgwrs ar faes yr Eisteddfod nad yw'n credu bod Cymru'n rhy dlawd i fod yn wlad annibynnol.
Pwysleisiodd cyn-brif weinidog Cymru nad oedd yn cefnogi annibyniaeth, ac y byddai'n well ganddo weld mwy o gyfartaledd rhwng gwledydd y DU.
Ond dywedodd bod angen ystyried beth fyddai'r goblygiadau, oherwydd y posibilrwydd y gallai Cymru ddod yn annibynnol yn y dyfodol.
Mae Mr Jones eisoes wedi rhybuddio y gallai Brexit blêr ddinistrio'r DU, ac y byddai'n "anghynaladwy" i Gymru aros petai'r Alban a Gogledd Iwerddon yn gadael.
'Barod i drafod'
Yn ystod y sgwrs ar y maes yn Llanrwst, gafodd ei threfnu gan fudiad YesCymru, ategodd Carwyn Jones nad oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth "o ran egwyddor", ond yn hytrach am resymau "ymarferol".
Ond fe wnaeth hefyd gydnabod bod sefyllfa bresennol y DU yn ei boeni, yn enwedig os oedd yr Alban yn datgan annibyniaeth ac Iwerddon yn uno.
Fyddai "dim dyfodol gyda Lloegr a Chymru" yn y sefyllfa honno, meddai, a phetai Lloegr yn penderfynu y byddai'n well ganddi fod ar ei phen ei hun hefyd "fe allen ni fod yn annibynnol heb ddewis".
"Dyna pam ni angen bod yn barod i feddwl am y materion, a bod yn barod i drafod y peth nawr," meddai.
Dywedodd mai dyna oedd y rheswm iddo gymryd rhan yn y drafodaeth, er nad oedd yn disgrifio ei hun fel rhywun oedd y chwilfrydig dros annibyniaeth - neu 'indycurious'.
Pwysleisiodd y byddai Cymru annibynnol yn ei chael hi'n anoddach i fenthyg arian fel gwlad newydd, ond bod "lot o wledydd yn y coch... dyw hynny ddim yn anarferol".
Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn rhy dlawd i fod yn annibynnol - na."
Rhybuddiodd fodd bynnag nad oedd economïau gwledydd annibynnol yn "newid dros nos", a bod gwledydd fel Iwerddon wedi wynebu blynyddoedd "llwm" cyn llewyrchu.
Herio'r pwynt hwnnw wnaeth AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts gan ddweud bod gwledydd y Baltig wedi llwyddo i ffynnu yn economaidd yn y 1990au o fewn rhai blynyddoedd i dorri'n rhydd o'r Undeb Sofietaidd.
Dywedodd Ms Roberts fod y cyn-brif weinidog a rhai o'i gyd-aelodau Llafur - roedd Alun Davies AC hefyd yn y gynulleidfa - yn dangos mwy o ddiddordeb yn y pwnc am eu bod yn gweld y cyfeiriad roedd y gwynt yn chwythu ac "eisiau bod yn rhan o hyn hefyd".
Cafodd Mr Jones hefyd ei herio gan gadeirydd YesCymru, Sion Jobbins, y byddai dydd yn dod pan fyddai'n rhaid i Lafur Cymru ddewis rhwng teyrngarwch i'w plaid ac annibyniaeth.
Ond mynnodd Mr Jones: "Bydde byw mewn Cymru annibynnol ddim yn 'neud fi'n fwy o Gymro nac ydw i nawr."
Dywedodd aelod arall o'r panel, y darlithydd Jeff Williams-Jones, y byddai'n rhaid i ymgyrchwyr wneud y ddadl ariannol dros annibyniaeth "ar safon y dystiolaeth, nid emosiwn".
Yn ddiweddar fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud wrth Boris Johnson fod y drafodaeth ynghylch annibyniaeth i Gymru yn codi'n uwch ar yr agenda gwleidyddol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2019
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019