Myrddin ap Dafydd: 'Angen newid yr Orsedd yn raddol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Archdderwydd wedi dweud mai dim ond yn raddol y mae ef eisiau gwneud newidiadau i'r Orsedd a bod pethau eisoes yn gweithio'n dda fel y maen nhw.
Daw hyn er bod sawl newid eisoes wedi cael eu cyflwyno yn ddiweddar, gan gynnwys caniatáu i fechgyn fod yn rhan o ddawns y blodau o hyn ymlaen.
Fe wnaeth Myrddin ap Dafydd hefyd gyhoeddi yn y Pafiliwn yn ystod seremoni'r Cadeirio ddydd Gwener bod enw'r sefydliad yn newid o 'Gorsedd y Beirdd' i 'Gorsedd Cymru'.
"Mae 'na gyfrifoldeb arnom ni i gyd yn yr oes sydd ohoni, os oes 'na gyfle, i wneud rhywbeth," meddai.
"Mae 'na wleidyddion yn Llundain sydd am dorri'n cysylltiadau ni yma yng Nghymru efo gwledydd yn Ewrop.
"Mae'n hollbwysig i ni gael cysylltiadau dros ffiniau."
Cafodd yr Archdderwydd hefyd gefnogaeth Bwrdd yr Orsedd mewn cyfarfod ddydd Iau ar gyfer ymgyrch i geisio cryfhau cysylltiadau'r Orsedd â gwledydd yn Ewrop, gan ddechrau gyda Gwlad y Basg.
"Mi fydd hynny gobeithio yn ysgogi parhad ac ymestyn rhwng Gwlad y Basg a ninnau," meddai.
"Dwi'n meddwl ein bod ni, gan ein bod ni'n gyfarwydd efo'r sefyllfa o ddwy iaith yma yng Nghymru, mi ydan ni'n Ewropeaidd iawn ein hagwedd, ac mae'r diwylliant Cymraeg yn Ewropeaidd iawn.
"Felly dydy o ddim yn anodd i ni wybod mor bwysig ydy cael gwybod am wledydd eraill, rhannu pethau efo diwylliannau eraill."
'Dim gormod o edrych yn ôl'
Sut felly mae'r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf fel Archdderwydd wedi mynd?
"Dysgu'dwi wythnos yma, mae wedi bod yn gwrs caled," meddai. "Un peth dwi yn wirioneddol ddiolchgar amdano fo ydy'r gefnogaeth.
"Y peth cyntaf i'w gofio ydy bod rhaid rhoi prynhawn cofiadwy i'r enillydd yna, dyna ydy holl fwriad y seremoni.
"Mae pethau mân dwi 'di ystwytho rhywfaint... [ond] ar y cyfan dwi'n meddwl bod seremonïau'r llwyfan yn gweithio fel maen nhw. Does dim eisiau gormod o newid ar hynny, mae'n unigryw fel mae o.
"Fedri di ddim anghofio am 200 mlynedd o draddodiad. Ond mae'n bwysig ein bod ni ddim yn edrych yn ôl drwy'r amser chwaith, ac felly mae hi yng nghyfansoddiad yr Orsedd ei bod hi'n ymestyn ac yn cynnwys pob elfen o adloniant a chelfyddyd.
"Mae'r Eisteddfod wedi ymestyn cymaint dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae 'na gymaint o amrywiaeth ar y Maes erbyn heddiw nac oedd 'na 30 mlynedd yn ôl pan ddaeth hi i Lanrwst ddiwethaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd5 Awst 2019