'Eisteddfod eleni wedi bod yn wyrth,' medd Llywydd y Llys

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod Conwy 2019
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn ciwio ar ddydd Sul cyntaf Eisteddfod Sir Conwy

Ar ddiwedd ei gyfnod tair blynedd fel llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, dywed Eifion Lloyd Jones fod Eisteddfod Sir Conwy "wedi bod yn wyrth".

Wrth gael ei gyfweld gan BBC Cymru dywedodd Mr Jones: "Eleni ar ôl pob dim sydd wedi digwydd, yr unig air allai ddefnyddio yw gwyrth - mae'n wyrth fod y jig-so wedi dod at ei gilydd mor llwyddiannus.

"A sôn am eleni, weles i erioed gymaint o faneri a chroeso ym mhob pentref... a dwi erioed wedi gweld cynulleidfa mwy niferus yn y pafiliwn gydol yr wythnos ac erioed wedi gweld y pafiliwn mor llawn brynhawn Sul o'r blaen.

"Dwi ddim yn credu fod 'na unrhyw beth yn yr hyn sydd wedi digwydd eleni yn awgrymu na ddylen ni fynd â'r ŵyl yma i bob cwr o Gymru a rhoi cyfle i Gymry ar hyd y wlad gael meddiannu yr eisteddfod am gyfnod a bod yr eisteddfod yn hybu iaith a Chymreictod y fro honno lle bynnag bo hi."

Y llynedd bu'n rhaid i Eifion Lloyd Jones ymddiheuro wedi ei sylwadau yn seremoni Cymru a'r Byd.

'Un gair ymysg miloedd'

Wrth gyflwyno y llywydd Iori Roberts dywedodd Mr Jones fod Mr Roberts wedi treulio cyfnodau "yn gweithio'n Uganda ac Ysgol Emrys ab Iwan, Abergele - a dwi ddim yn siŵr lle roedd yr anwariaid gwaethaf".

Arweiniodd hynny at feirniadaeth hallt.

Ond wrth edrych yn ôl eleni ar ei gyfnod o dair blynedd dywedodd Eifion Lloyd Jones: "Dwi'n credu fod y cyfan sydd wedi'i gyflawni yn ystod y tair blynedd yn rhywbeth y gallai fod yn ddigon bodlon ohono.

"Mi fu 'na gamddealltwriaeth am un gair yng Nghaerdydd ond un gair ymysg degau os nad cannoedd o filoedd o eiriau dros y tair blynedd ddiwethaf.

"Na dwim yn credu fod 'na unrhyw beth y dylid fod wedi'i wneud yn wahanol ar wahân i un gair."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eifion Lloyd Jones na fyddai wedi newid dim heblaw am un gair

Wrth edrych ymlaen at ddyfodol y brifwyl dywedodd Mr Jones fod yr Eisteddfod yn "esblygu a'i bod yn dod yn ŵyl ieuengach".

Ond ychwanegodd bod cynulleidfa'r pafiliwn yr wythnos hon yn dangos bod y cystadlu hefyd yn dal i ddenu'r miloedd.

Ddydd Mercher cyhoeddodd yr Eisteddfod bod Ashok Ahir wedi cael ei ethol yn Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli'r sefydliad.

Ar ddiwedd ei gyfnod fel llywydd dywedodd Eifion Lloyd Jones ei fod yn dymuno yn dda iddo a mai "ef fyddai'n cael y fraint i sicrhau llwyddiant yr eisteddfod yn y dyfodol".