Pride Abertawe y digwyddiad 'mwyaf cynhwysol eto'
- Cyhoeddwyd
Bydd Pride Abertawe yn cynnal noson ddawns unigryw ynghanol y ddinas nos Iau i ddathlu'r gymuned LHDT.
Mae pobl eisoes wedi dechrau dathlu'r ŵyl gydag amryw o ddigwyddiadau ar hyd a lled y ddinas.
Bydd y dathliadau'n parhau nos Iau gyda noson ddawns wedi'i hysbrydoli gan y rhaglen Strictly Come Dancing yn Neuadd Brangwyn.
Un o'r rhai fydd yn cystadlu yw'r actores Carli De'La Hughes, sy'n chwarae rhan Vicky Collins yn yr opera sebon Pobol y Cwm.
"Mae Pride Abertawe yn bwysig achos mae'n dangos diversity," meddai Carli wrth Cymru Fyw.
"Mae'n rhywbeth sy'n dangos bod ni'n gyd yr un fath, dim ots os chi'n cwympo mewn cariad gyda bachgen neu ferch."
'Dathlu unigrywiaeth'
Er iddi wneud rhywfaint o ddawnsio yng Ngholeg Gorseinon ac yna yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd, mae Carli'n edrych ymlaen at yr her o ddawnsio nos Iau.
"Byddai mas o fy comfort zone i - dim ond wyth sesiwn ymarfer ni wedi cael mewn tri mis - ond fi ffili aros!"
Bydd y noson ddawns yn cael ei chynnal gan yr actores a chyn-gystadleuydd Strictly, Charlie Brooks.
Yn ôl trefnydd yr ŵyl Mark Jermin, digwyddiad Pride Abertawe eleni fydd yr un "mwyaf cynhwysol eto".
Dywedodd y byddai'r ŵyl yn "dathlu unigrywiaeth a hunanfynegiant" ac yn "uno grwpiau cymunedol a busnesau lleol i hyrwyddo hunangariad" yn y ddinas.
Bydd parêd hefyd yn cychwyn yn Stryd y Gwynt ac yn mynd drwy ganol y ddinas ddydd Sadwrn am 11:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2018