Merched Met Caerdydd yn gorffen ar nodyn uchel yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Cardiff Met WFCFfynhonnell y llun, Met Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Tîm merched Met Caerdydd ydy pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru

Mae Met Caerdydd wedi dod y tîm pêl-droed merched mwyaf llwyddiannus o Gymru mewn cystadleuaeth Ewropeaidd ar ôl gorffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol.

Yn eu gêm ddiwethaf ddydd Mawrth, fe enillodd y merched o 5-1 yn erbyn FC Nike o Georgia yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Roedd dwy gôl yr un gan Naomi Clipston a Madison Schupbach ac un gan Robyn Pinder yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth swmpus allan yn Slofenia.

Nid yw'r fuddugoliaeth yn ddigon i sicrhau lle'r merched yn y rownd nesaf o'r gystadleuaeth, ar ôl iddyn nhw golli o 2-1 ddydd Sadwrn yn erbyn Hibernian.

Yn gynharach yn y grŵp roedd Met Caerdydd wedi ennill 1-0 yn erbyn Pomurje Beltinki.

Hibernian orffennodd yn gyntaf yn y grŵp ac sydd felly'n camu 'mlaen i'r rownd nesaf.