Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Halifax Town

  • Cyhoeddwyd
pel

Roedd gôl hwyr i 10 dyn Wrecsam yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth hollbwysig ar y Cae Ras yn erbyn Halifax Town nos Fawrth.

Cafodd amddiffynnwr y dreigiau, Jake Lawlor gerdyn coch gydag 20 munud yn weddill wedi iddo lorio'r ymosodwr Tobi Sho-Silva.

Ar ôl y cerdyn coch yr ymwelwyr oedd yn gwthio am y fuddugoliaeth.

Ond gyda 12 munud ar ôl, fe ergydiodd Mark Harris yn gywir i gornel isaf y rhwyd ar ôl pas ardderchog gan Paul Rutherford.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Wrecsam yn codi i'r nawfed safle yn y tabl.