Tri newid i'r tîm ddechreuodd yn erbyn Lloegr ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd
Dan BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images

Dan Biggar fydd yn dechrau yn safle'r maswr i Gymru yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn, yn dilyn yr anaf i ben-glin Gareth Anscombe.

Mae Biggar yn un o dri newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Lloegr ddydd Sul, gyda Jake Ball yn cymryd lle Adam Beard yn yr ail reng a James Davies yn dechrau yn y rheng ôl yn lle Justin Tipuric.

Dyma fydd y tro cyntaf i James Davies chwarae i Gymru yn yr un gêm a'i frawd hŷn, Jonathan - a nhw fydd y brodyr cyntaf i wneud hynny ers Nicky a Jamie Robinson yn 2006.

Mae Jarrod Evans hefyd wedi cael ei enwi ymysg yr eilyddion yn lle maswr y Scarlets, Rhys Patchell.

Daeth record ddiguro Cymru i ben dros y penwythnos gyda cholled o 33-19 yn Twickenham.

Mae'r gemau cyfeillgar yn rhan o baratoadau Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan.

Yn ogystal â'r ddwy ornest yn erbyn Lloegr, bydd carfan Warren Gatland hefyd yn wynebu Iwerddon ddwywaith - yng Nghaerdydd ac yn Stadiwm Aviva, Dulyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gareth Anscombe yn methu Cwpan Rygbi'r Byd ar ôl cael ei anafu yn y golled i Loegr

Mae Gareth Davies wedi cael ei ddewis yn safle'r mewnwr unwaith eto, gydag Aled Davies yn cael ei ddewis ar y fainc yn lle Tomos Williams oherwydd anaf.

Mae Ross Moriarty yn parhau fel wythwr gyda James Davies ac Aaron Wainwright yn flaenasgellwyr.

Bydd blaenasgellwr y Gleision, Josh Navidi, hefyd ar gael o'r fainc wedi iddo ddychwelyd wedi cyfnod hir o anafiadau.

Nid oes newid yn y rheng flaen, tra bod Jake Ball yn cymryd lle Adam Beard wrth ochr y capten, Alun Wyn Jones, yn yr ail reng.

Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Principality am 14:15.

Tîm Cymru

Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Nicky Smith, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (C), Aaron Wainwright, James Davies, Ross Moriarty.

Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Dillon Lewis, Aaron Shingler, Josh Navidi, Aled Davies, Jarrod Evans, Owen Watkin.

Tîm Lloegr

Elliot Daly; Ruaridh McConnochie, Jonathan Joseph, Piers Francis, Joe Cokanasiga; George Ford (C), Willi Heinz; Ellis Genge, Luke Cowan-Dickie, Dan Cole; Joe Launchbury, Maro Itoje, Courtney Lawes, Lewis Ludlam, Billy Vunipola.

Eilyddion: Jamie George, Joe Marler, Kyle Sinckler, George Kruis, Jack Singleton, Ben Youngs, Owen Farrell, Manu Tuilagi.