Cloddio am olion hen gaer Dinas Dinlle cyn eu colli i'r môr
- Cyhoeddwyd
Mae archeolegwyr yn ceisio canfod mwy o wybodaeth am gaer hanesyddol ar arfordir y gogledd cyn iddi ddiflannu i'r môr oherwydd erydiad.
Mae arbenigwyr yn credu bod caer wedi gorchuddio rhan helaeth o dir uwchben traeth Dinas Dinlle ger Caernarfon, sydd bellach wedi diflannu yn dilyn miloedd o flynyddoedd o erydu arfordirol.
Does dim llawer o fanylion ynglŷn â'r heneb, ond y gred yw ei fod yn dyddio'n i gyfnod cynhanesyddol.
Mae rhai darganfyddiadau hefyd yn awgrymu bod pobl wedi meddiannu'r lle yn ystod oes y Rhufeiniaid.
'Un o'r safleoedd hanesyddol pwysicaf'
Ar ddechrau'r 20fed ganrif, roedd y lleoliad yn cael ei ddefnyddio fel cwrs golff ac roedd amddiffynfa wedi'i adeiladu yno i warchod Safle Awyrlu Llandwrog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan dîm o archeolegwyr, tirfesurwyr, daearegwyr a gwyddonwyr o brosiect newid hinsawdd a threftadaeth CHERISH.
Dros y pedair blynedd nesaf, bydd CHERISH yn cynnal nifer o astudiaethau i recordio ac i fonitro effaith erydu arfordirol ac i ddarparu dealltwriaeth well o'r gaer.
Dywedodd Louise Barker o'r prosiect: "Dyma un o'r mannau arfordirol hanesyddol pwysicaf yng ngogledd Cymru, ond mae dan fygythiad i erydu.
"Drwy ein gwaith, rydym yn gobeithio cael gwell dealltwriaeth o bryd oedd pobl yn byw yn Ninas Dinlle a pryd gafodd y gaer ei hadeiladu, hefyd faint o dir sydd wedi'i golli i erydu."
Dywedodd un o'r archeolegwyr, Dan Amor mai un o'r darganfyddiadau pwysicaf hyd yn hyn oedd olion tŷ crwn maen nhw'n credu sydd tua 2,500 o flynyddoedd oed.
"Mae hynny'n codi'r cwestiwn pwy oedd yn byw yma?" meddai wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.
"Oedd 'na berson pwysig yn byw yma? Oedd 'na deulu'n byw yma? Neu oedd o'n rhyw fath o ofod cymunedol?"
Model 3D
Mae'r tîm yn cynnal archwiliad manwl o'r ardal drwy ddefnyddio lloeren a gradiomedr daearyddol sy'n gallu canfod gwrthrychau archeolegol o dan y tir.
Bydd y lluniau o'r awyr yn galluogi'r tîm i wneud model 3D o'r safle, fydd yn datgelu manylion am ffurf wreiddiol y gaer ac i fesur gwir erydiad y safle dros y blynyddoedd.
Bydd CHERISH yn gweithio'n agos gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd berchen y safle.
Dywedodd Rheolwr Gweithredoedd Llŷn, Andy Godher fod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn "falch iawn i fod yn rhan o'r prosiect".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Awst 2019