Hwyl a sarhad y cardiau post Cymreig
- Cyhoeddwyd
Ystyr llythrennol y gair 'Wales' yn Saesneg yw 'Gwlad yr Estroniaid' ac efallai fod rhai o'n cymdogion dros Glawdd Offa wedi ein gweld fel pobl estron, dieithr a rhyfedd erioed.
Dyna mae hen gardiau post o ddechrau'r ugeinfed ganrif yn awgrymu o leiaf. Yn rhain yn aml mae bonheddwr Saesneg, mewn trowsus dwyn afalau yn crafu'i ben tra'n ceisio gwneud synnwyr o'r Cymry a'u diwylliant 'od a gwahanol'.
Mae elfen gref o wawd a bychanu ar y cardiau ond weithiau ceir cydymdeimlad a hyd yn oed edmygedd crafog, gan ddibynnu ar y cartwnydd.
Mae gan Iwan Hughes o'r Fflint gasgliad sylweddol o'r cardiau post yma, bron pob un ohonynt dros ganrif oed, yn dangos y teithiwr Seisnig yn difrïo'r iaith Gymraeg, enwau llefydd, ymadroddion ystrydebol, y werin a'r Eisteddfod.
Meddai Iwan, sy'n Bennaeth Adran Saesneg Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug: "Roedd y diwydiant cardiau post (neu deltioleg) yn ffynnu yn y 1900au cynnar.
"Rhyw fath o gerdyn busnes syml oedd cardiau post cyn hynny ond o 1902 ymlaen caniatawyd i'r cyhoedd ysgrifennu fel yr oeddan nhw'n mynnu ar eu cefnau. Gyda phum dosbarthiad post y dydd bryd hynny, daeth cardiau post yn boblogaidd iawn ac erbyn 1914 roedd 880 miliwn ohonynt yn cael eu gwerthu bob blwyddyn."
Natur fileinig
"O'r 1920au ymlaen roedd llai o barch tuag at y Cymry'n bodoli a'r diffyg dirnadaeth o ddiwylliant Cymru'n troi'n fwy sbeitlyd ei naws. Erbyn y 1930au roedd natur llawer mwy mileinig i'r cardiau gan fod y cartwnwyr gan amlaf yn Saeson.
"Roedd llawer llai o'r dynion Edwardaidd dryslyd yn ymddangos, a mwy o dwristiaid ymosodol, diserch a pharod iawn eu gwawd."
Rhyfeddod yr Eisteddfod
Yn ei gasgliad mae gan Iwan Hughes dros 600 o gardiau post Cymreig ac un o'r targedau amlycaf ynddynt gan y cartwnwyr oedd yr Eisteddfod.
Meddai Iwan: "Rhaid cofio, i'r brawd dros y ffin, roedd y brifwyl yn rhyfeddod llwyr. Ysgrifennodd The Times unwaith am yr Eisteddfod: 'A mischievous and selfish piece of sentimentalism, simply foolish interference with the natural progress of civilization and prosperity. It is monstrous folly to encourage the Welsh in a loving fondness for their old language.'
"Ond eto, mewn rhai o'r cardiau cynnar hyn fe welir elfen o gydymdeimlad wrth i gartwnwyr Cymraeg y dydd fel Lloyd Hughes a Llwyd Roberts chwerthin ar y dryswch cenedlaethol rhwng y Cymry a'u cymdogion.
"Nid y Cymro sydd dan y lach o hyd. O dro i dro mae'r hwyl yn cael ei droi ar ei ben. Nid yw'n glir ar rai cardiau pwy yn union sydd yn destun sbort.
Ystrydebau
"Er bod yr hen ystrydebau Cymreig fel y geifr, yr hen ddynion gwyllt-yr-olwg a'r merched golygus yn amlwg yn y delweddau, mae'r hiwmor yn troi at y ffaith bod y twrist uniaith Saesneg yn ei frethyn cartref, ei ddici-bo a'i fwstas cyrn beic ar goll yn llwyr ymysg synau a llythrennau'r Gymraeg.
"Un o brif gartwnwyr y cyfnod cynnar hwnnw oedd Joseph Morewood Staniforth (1863-1921) a anwyd yng Nghaerloyw, ond a fagwyd ar Stryd Caroline, yng nghanol Caerdydd. Roedd o'n barod iawn i ddefnyddio idiomau 'Cymreig' ystrydebol fel 'Look you' ac 'Indeed now', ond nid mewn modd sbeitlyd.
"Mae sawl cerdyn ganddo'n cynnwys Dame Wales, Cymraes ganol oed yn gwneud gweithgareddau 'Cymreig' fel mynydda a chwarae rygbi, ond fe'i gwelir mewn rhai cardiau'n ymwneud â'r 'Pethe' hefyd."
Ond hoff gartwnydd Iwan yw Lloyd Hughes: "'Mae ei gardiau post o'n ddoniol tu hwnt a dwi wrth fy modd hefo symlrwydd ei ddarluniau. Y cerdyn cyntaf i mi ei brynu oedd un gan Lloyd Hughes yn darlunio merch ifanc hardd yn cael ei thynnu rhwng y capel a'r eglwys.
"Dyna le dechreuodd fy niddordeb mewn casglu ac erbyn hyn mae gen i dros 60 o'i gardiau yn fy nghasgliad.
"Mae ei gardiau yn annwyl eu pryfocio a'u natur. Dwi'n meddwl bod ei ddarlun o'r bardd Cymraeg yn breuddwydio am fuddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1904 yn ddoniol tu hwnt!
"Rhyfedd sylwi nad ydy beirdd heddiw heb newid llawer o ran golwg - wel y rhai canol oed a hŷn fel fi, o leiaf!"