Achos maes pebyll: Dyn yn cyfaddef achosi niwed difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 26 oed o Fanceinion wedi pledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol trwy yrru'n beryglus ar faes gwersylla ger Caernarfon.
Cafodd Jake Waterhouse ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen ynadon yn Llandudno mewn cysylltiad â'r digwyddiad ym maes pebyll Rhyd y Galen ar gyrion Bethel tua 02:00 fore Llun.
Clywodd y llys bod bywyd dynes oedd yn gwersylla yno ar y pryd, Anna Roselyn Evans, yn y fantol oherwydd ei hanafiadau.
Dywedodd cyfreithiwr ar ran y diffynnydd ei fod yn "wirioneddol edifar" ac wedi dweud wrthi "ei fod yn haeddu cael ei gosbi".
Ychwanegodd Carys Parry bod Mr Waterhouse yn "cymryd cyfrifoldeb llawn am y digwyddiadau dinistriol ar y gwersyll" ac "yn derbyn y bydd yn wynebu cyfnod hir yn y carchar o ganlyniad i'r hyn y gwnaeth".
Dywedodd Gareth Parry ar ran yr erlyniad bod y diffynnydd wedi bod yn yfed yn drwm cyn cymryd car Subaru Impreza ei ffrind a'i yrru o amgylch y gwersyll.
Fe anafodd dau berson oedd mewn un babell cyn taro ail babell ac anafu dau berson arall, yn cynnwys Ms Evans.
Bu'n rhaid i ddau ddyn a dynes arall gael triniaeth ysbyty hefyd wedi'r digwyddiad.
Mewn gwrandawiad a barodd am wyth munud, a'i lais yn torri dan emosiwn, cyfaddefodd Mr Waterhouse ei fod wedi achosi niwed difrifol i Ms Evans trwy yrru'n beryglus.
Plediodd yn euog hefyd i yrru heb drwydded, gyrru heb yswiriant, a gwrthod darparu prawf anadl.
Doedd dim cais am fechnïaeth a bydd yn parhau yn y ddalfa nes ei wrandawiad nesaf yn Llys Y Goron Caernarfon ar 23 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2019
- Cyhoeddwyd19 Awst 2019