Gobaith y bydd gosodiad ymbarél yn hwb i Gaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Ymbarelau Stryd y PlasFfynhonnell y llun, Siop Iard
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i bob busnes ar y stryd gytuno cyn bwrw 'mlaen â'r cynllun

Mae 200 o ymbarelau amryliw yn cael eu gosod uwchben un o strydoedd Caernarfon gyda'r gobaith o roi hwb i fusnesau canol y dref.

Bydd y gosodiad celf i'w weld yn Stryd y Plas fel arbrawf tan ddiwedd gwyliau'r haf, gyda'r nod o greu atyniad all ddatblygu i fod yn un flynyddol.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Gavin Owen o'r cwmni adfywio di-elw Hwb Caernarfon, iddo awgrymu'r syniad ar ôl gweld gosodiad tebyg tra ar wyliau yn Barcelona.

Mae yna gynlluniau hefyd i greu atyniad "tebyg ond gwahanol" yn Stryd Llyn fel rhan o'r ymdrechion i wella delwedd y dref a denu mwy o ymwelwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Yr ymbarelau glas gafodd eu gosod yn gyntaf

Bydd rhesi o ymbarelau'n hongian o geblau ryw 10m o uchder ar hyd Stryd y Plas.

Bydd modd ailddefnyddio'r ceblau i ddal goleuadau Nadolig a gosodiadau celf eraill i gyd-fynd â digwyddiadau fel Gŵyl Fwyd Caernarfon a Gŵyl Arall.

'Ma' isio rwbath fel hwn'

"Roedd rhaid cael consent pob busnes a pob landlord ar y stryd ac roedden nhw i gyd yn deud, 'ia, grêt, ma' isio rwbath fel hwn'," meddai Mr Owen.

Mae rhai wedi cwestiynu'r penderfyniad i fywiogi stryd sydd eisoes yn ffynnu, yn hytrach na Stryd Llyn, sydd â nifer o siopau gwag.

Dyna oedd y bwriad yn wreiddiol, medd Mr Owen, ond roedd yn amhosib am nifer o resymau ymarferol, gan gynnwys materion iechyd a diogelwch a hyd y stryd.

"Yn llefydd fel Lerpwl, ma'r ambaréls 'di chwalu pan ma'r tywydd yn troi, felly fysa 'na broblem efo'r gwynt o'r Maes."

Ychwanegodd Mr Owen bod bwriad i weithio gydag artistiaid lleol "i greu cynllun tebyg ond gwahanol" ar gyfer Stryd Llyn.

Ffynhonnell y llun, Siop Iard

Mae Mr Owen yn cydnabod bod ambell i unigolyn wedi beirniadu'r syniad am resymau ariannol.

"Ma' un neu ddau yn cerdded heibio ac yn deud 'be 'da chi'n neud' a 'wast o bres' - pobol sy'n meddwl mai pres cyngor ydi o. Mae hwn yn rwbath hollol ar wahân."

Dywedodd Mr Owen eu bod wedi cael £16,000 mewn grant Strydoedd Unigryw gan Arloesi Gwynedd Wledig at werth £20,000 o welliannau.

Mae sefydlu'r prosiect ymbarelau wedi costio £12,000, a bydd yr arian dros ben yn mynd at rannau eraill o ganol y dref.

Cafodd Hwb Caernarfon ei sefydlu yn 2016 dan y fframwaith Ardal Gwella Busnes a chyfraniadau busnesau lleol sy'n gyfrifol am gyllid blynyddol y cwmni o £96,000.

Nod Ardaloedd Gwella Busnes yw gwella ardal benodol trwy ddarparu gwasanaethau sy'n ychwanegol at yr hyn sydd ar gael eisoes.

Mae'r camau i wella edrychiad canol Caernarfon yn cynnwys ail-baentio ffrynt siopau, gosod gwaith celf ar ffenestri adeiladau gwag a threfnu cannoedd o fasgedi blodau.

Bydd Hwb Caernarfon yn ailagor canolfan groeso'r dref yn yr wythnosau nesaf ac yn lansio gwefan cyn diwedd y flwyddyn i hybu siopau ac atyniadau'r ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Gosodiad ymbarelau yn Salisbury y llynedd