Mam yn ofni colli ei merch awtistig dros ddyled rhent
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Bont-y-pŵl oedd ar restr dyledwyr rhent yn dweud ei bod yn poeni y byddai wedi colli ei merch am nad oedd hi'n gallu gwneud cais am le ar restr tai cymdeithasol.
Yn ôl Sarah Hillier roedd cymdeithas dai yn Nhorfaen wedi mynnu ad-daliad ar unwaith neu ni fyddan nhw'n ystyried ei chais.
Mae elusen Shelter Cymru yn credu bod enwau tua 3,000 o bobl yng Nghymru ar restrau dyledwyr ac mewn perygl o fod mewn sefyllfa debyg i Ms Hillier.
Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru - y corff sy'n cynrychioli cymdeithasau tai - ei fod yn cydweithio gydag awdurdodau lleol ar y mater.
Yn ôl Jennie Bibbings o Shelter Cymru mae dyledion rhent o'r gorffennol yn golygu y gallai pobl fod yn sownd gyda chartrefi anfforddiadwy neu wynebu bod yn ddigartref.
"Does neb yn dweud na ddylid ad-dalu dyledion, ond ar hyn o bryd dyw'r rhan fwyaf o landlordiaid ddim yn gwneud digon i roi ail gyfle i bobl," meddai.
Erbyn hyn, mae Ms Hillier a'i theulu - ei phartner Gavin a'i merch awtistig 15 oed, Michaela - yn hapus eu byd ar ôl dod o hyd i gartref parhaol gyda chymdeithas dai Charter ym Mhont-y-pŵl.
Ond roedden nhw ar un adeg y wynebu'r posibilrwydd o Michaela yn cael ei rhoi mewn gofal.
'Nôl ym mis Chwefror fe wnaeth landlord preifat ofyn i'r teulu adael wedi iddyn nhw gwyno am damprwydd yn yr eiddo.
Wedi hynny, fe wnaeth Ms Hillier gofrestru gyda gwasanaeth digartrefedd Cyngor Torfaen, a dechrau holi am eiddo i'w rentu.
'Poeni am wyth mis'
Ym mis Mehefin cafodd wybod gan gymdeithas dai Bron Afon na fyddai'n cael cynnig lle nes ei bod wedi clirio 60% o ddyled o £1,060 oedd yn dyddio 'nôl i denantiaeth gyda'r gymdeithas rhwng 2000 a 2011.
Dywedodd fod y newyddion yn sioc lwyr gan nad oedd hi wedi cael unrhyw wybodaeth o'r ddyled yn y degawd ers i'w tenantiaeth ddechrau.
"Roeddwn yn poeni am wyth mis. Roeddwn yn meddwl y byddwn yn colli fy merch. Roedd o'n ofnadwy," meddai.
Fe wnaeth Ms Hillier gysylltu â Shelter, ac fe wnaeth yr elusen fynd ati i negydu lleihad o 50% yn ei dyledion. Yna fe lwyddodd i ddod o hyd i gartref.
Dywedodd Bron Afon bod gan ei landlordiaid bolisi ar hen ddyledion rhent, a'u bod yn "hyderus bod y gefnogaeth a'r cyngor a roddwyd gennym i Ms Hillier wedi mynd ymhellach na'n polisi i'w helpu gyda'i hopsiynau yn y dyfodol".
"Rydym yn cytuno gyda Shelter y dylai cartrefi cymdeithasol fod ar gael i bawb", meddai Stuart Ropke o Gartrefi Cymunedol Cymru (CCC).
Dywedodd fod CCC yn cydweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i "ymchwilio i effeithiolrwydd rhestrau tai cyfredol gan nodi lle mae angen newidiadau".
Ychwanegodd fod angen mwy o gymorth ar gynghorau er mwyn mynd i'r afael â dyledion tenantiaid.
Dyletswydd cynghorau
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd sefyllfa o'r fath yn dderbyniol a bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i "helpu unigolion i ddod o hyd i gartref diogel".
"Byddai rhwystro unigolyn gyda dyledion rhent yn mynd yn groes i'r ddyletswydd hon," meddai llefarydd.
"Fe ddylai awdurdodau lleol ystyried a allai'r ymgeisydd ddangos parodrwydd i dalu eu dyledion.
"Hefyd mae gan awdurdodau lleol rhywfaint o hyblygrwydd i ddefnyddio cronfeydd i helpu unigolion a theuluoedd i geisio mynd i'r afael a'u dyledion."
Yn ôl Shelter mae yna o leiaf dau awdurdod yng Nghymru - Rhondda Cynon Taf a Wrecsam - sy'n gwrthod caniatáu pobl ar eu rhestrau tai cymdeithasol os oes ganddyn nhw ddyledion rhent o'r sector preifat.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf mai dim ond pobl sydd â dyledion o dros £744 sydd wedi'u gwahardd, a'u bod yn cynnig "cymorth arbenigol" i'r rheiny.
Yn ôl Cyngor Wrecsam mae ganddyn nhw bolisi sy'n cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac nad yw'n bolisi o wahardd pawb sydd mewn dyled.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2017