Jayne Ludlow yn cyhoeddi carfan merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth merched Cymru drechu Seland Newydd yn eu gêm ddiwethaf ym mis Mehefin

Mae rheolwr tîm merched Cymru, Jayne Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer dwy gêm agoriadol eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2021.

Bydd y tîm yn teithio i herio Ynysoedd Ffaro yn Tórshavn ar 29 Awst cyn croesawu Gogledd Iwerddon i Gasnewydd ar 3 Medi.

Mae'n bosib y bydd pedwar o chwaraewyr yn ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf, sef Olivia Clark, Anna Filbey, Carrie Jones a Lily Woodham.

Dim ond 15 oed ydy Jones, o'r Drenewydd, sy'n chwarae i dîm merched Caerdydd.

Un sydd ddim yn y garfan ydy'r seren Jess Fishlock, wedi iddi ddioddef anaf difrifol tra'n chwarae i Reign FC yn Seattle fis diwethaf.

Mae disgwyl na fydd hi ar gael i herio Belarws ym mis Medi na'r gêm yng Ngogledd Iwerddon fis Tachwedd 'chwaith.

Carfan Cymru

Laura O'Sullivan, Claire Skinner, Olivia Clark, Sophie Ingle, Hayley Ladd, Loren Dykes, Gemma Evans, Rhiannon Roberts, Charlie Estcourt, Anna Filbey, Angharad James, Elise Hughes, Rachel Rowe, Carrie Jones, Natasha Harding, Emma Jones, Megan Wynne, Helen Ward, Kayleigh Green, Lily Woodham, Kylie Nolan, Ella Powell.