Cwrs i fynd i'r afael â 'phrinder dychrynllyd' organyddion
- Cyhoeddwyd
Mae cwrs wedi cael ei lansio i geisio cynyddu nifer yr organyddion sydd ar gael i chwarae yn eglwysi a chapeli Cymru.
Bydd Ysgol Gerddoriaeth Eglwysig Frenhinol yng Nghymru (RSCM) yn lansio cynllun newydd yn yr hydref, gyda'r nod o ddenu pobl ar draws y wlad i chwarae'r offeryn.
Dywedodd yr organydd Meirion Wynn Jones, sy'n diwtor ar y cwrs, bod "prinder dychrynllyd" yn nifer yr organyddion yng Nghymru, yn ogystal â gweddill y DU.
Bydd yr hyfforddiant - un wers y mis am chwe mis - yn cael ei gynnig i grwpiau o hyd at chwech o bobl am ffi o £180 mewn gwahanol leoliadau ar draws y wlad.
Dywedodd yr RSCM bod y gwersi wedi'u bwriadu ar gyfer y "cerddor cyffredin" gradd tri neu bedwar, gan ganolbwyntio'n bennaf ar chwarae emynau yn hyderus.
Dywedodd Mr Jones: "Y sefyllfa ledled Prydain, nid jest yma yng Nghymru, yw bod prinder dychrynllyd o organyddion erbyn heddiw.
"Dydy'r mwyafrif o bobl sydd yn chwarae ddim wedi cael y cyfle o wersi o gwbl.
"Mae nifer fawr ohonyn nhw'n bianyddion i bob pwrpas, sy'n cael eu gorfodi i chwarae pob Sul yn yr eglwys neu gapel."
Mae Daniel William Smith o Aberystwyth eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cwrs.
"Rwy'n hoffi bod Mozart wedi ei ystyried fel 'Brenin yr offerynnau' - mae ganddo repertoire eang i'w archwilio," meddai.
"Rydw i hefyd yn hoffi'r ffaith eich bod chi nid yn unig yn defnyddio'r allweddell, ond y pedalau hefyd, ac mae cymaint o gyfuniadau o stops i ddewis rhyngddynt."
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar gyfer cwrs yr RSCM ydy 11 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd25 Mai 2014