Rhaid i’r Eisteddfod fod yn fwy 'trwyadl' medd y Llywydd
- Cyhoeddwyd
Mae angen i'r Eisteddfod Genedlaethol fod yn "fwy trwyadl" cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â lle i gynnal y brifwyl, yn ôl cadeirydd newydd y bwrdd rheoli.
Yn ôl Ashok Ahir, sydd hefyd wedi cael ei ethol yn Llywydd Llys yr Eisteddfod, bydd y mater o gynllunio ymlaen llaw ar gyfer pob amgylchiad posib yn cael sylw buan gan y bwrdd.
Eleni bu'n rhaid i'r Eisteddfod symud safle gwreiddiol yr ŵyl yn dilyn llifogydd yn ardal Llanrwst ac fe wnaeth y trefnwyr gyfaddef fod "gwersi i'w dysgu".
Bu'n rhaid hefyd canslo gigiau ym Maes B ar y penwythnos olaf o achos rhagolygon tywydd.
Yn Eisteddfod Môn yn 2017 roedd y brifwyl "o fewn ychydig oriau" i gael ei chanslo yn sgil y glaw.
"Pan mae ardaloedd eisiau Eisteddfod ddod atyn nhw, ydyn ni'n cael digon o wybodaeth am y tywydd ym mis Awst? Nid jest ym mis Awst ond mis Gorffennaf," meddai Mr Ahir sy'n Gyfarwyddwr Cyfathrebu Llywodraeth y DU yng Nghymru yn ei waith bob dydd.
"Oes gennyn ni ddigon o asesiadau am y llefydd, er enghraifft y tir?
"Dwi'n meddwl dyna un o'r pethau sydd wedi dod mas o'r ddwy Eisteddfod yn y gogledd yn ddiweddar - Sir Fôn a Llanrwst.
"Ni angen bod yn lot mwy trwyadl am y wybodaeth ni angen fel bwrdd cyn i ni wneud penderfyniad am unrhyw leoliad."
Er ei fod o'r farn y dylai'r ŵyl barhau i deithio, mae Mr Ahir hefyd yn dweud bod angen bod yn "onest" am ba leoliadau a pha drefi sydd â'r gallu i gynnal y brifwyl.
Mae cael adeiladau parhaol yn y llefydd mae'r Eisteddfod yn ymweld â nhw yn ogystal â chaeau priodol yn ystyriaeth i'r dyfodol, meddai.
"Dyna'r cwestiwn - ydych chi wastad yn cadw popeth mewn un darn o dir? Neu chi'n dweud: 'Oce hwn yw'r pafiliwn, falle mae'n gallu bod yn adeilad parhaol, mae hwn yn gallu bod y Babell Lên, hwn yn gallu bod yn Llwyfan y Maes' ond ni'n cadw elfennau eraill.
"So fyse pobl falle yn talu am fynd mewn i darnau o'r Eisteddfod ond ddim am yr elfennau eraill.
"Dyna'r cwestiwn ni eisiau datblygu a trafod fel bwrdd dros y flwyddyn nesaf."
Cafodd Mr Ahir, oedd yn gadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn Eisteddfod Caerdydd, ei ethol fel cadeirydd y Bwrdd Rheoli a Llywydd y Llys yn ystod yr Eisteddfod yn Llanrwst fis diwethaf.
Bydd yn gwneud y ddwy rôl am flwyddyn ond yn ystod y cyfnod yma fe fydd yna benderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â'r hyn fydd yn digwydd i'r swyddi gyda disgwyl newidiadau erbyn yr Eisteddfod nesaf am y ffordd y bydd hi'n "cael ei rheoli ar yr ochr lywodraethol".
"Y ffordd ni'n mynd, ni eisiau creu Llywydd y Llys ar wahân o'r Cadeirydd, mwy fel rôl anrhydedd er enghraifft," meddai.
"Fe fydd pwy bynnag yw Cadeirydd y Bwrdd yn gwneud hwnna am dair blynedd.
"Ond dwi'n gwneud am gyfnod o flwyddyn pan ni'n 'neud cyfnod o drosglwyddo i'r sefyllfa newydd."
Cysylltu â'r gymuned
Mae'n dweud bod y brifwyl wedi bod trwy newidiadau yn y ddegawd ddiwethaf ond bod yna stereoteip yn dal yn bodoli mai rhywbeth i'r Cymry Cymraeg, gwyn, dosbarth canol yw hi.
"Mae'n bodoli gyda rhai sydd wedi eu magu yn y traddodiad os ni'n onest.
"Beth oedd yn ddiddorol i fi fel cadeirydd yn Gaerdydd oedd faint o bobl, Cymry Cymraeg dwi'n nabod o wahanol ardaloedd ar draws Cymru, oedden nhw yn dod i Steddfod Caerdydd a meddwl: 'Waw dwi ddim wedi bod i Steddfod am ddegawd ond mae hwn ddim yn beth dwi'n disgwyl'.
"Maen nhw dal â syniad o beth oedd yr Eisteddfod. Dwi'n meddwl os chi'n gallu mynd heibio nhw, wrth gwrs chi gallu mynd heibio grwpiau eraill hefyd."
Yr elfen sydd wedi bod ar goll yn y gorffennol, meddai Mr Ahir, sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ond yn dod yn wreiddiol o Wolverhampton, yw'r ymgysylltiad mwy dwfn gyda'r cymunedau lleol er mwyn denu cynulleidfaoedd newydd trwy'r drysau.
Mae'r ffocws wedi bod ar yr elfen o godi arian, meddai.
"Mae 'na lot o waith gwahanol, nid jest: 'O codi arian sy'n mynd i gyrraedd targedau ariannol ar gyfer pwyllgorau lleol' ond sut ni'n gallu cefnogi pwyllgorau lleol i gyrraedd cynulleidfaoedd efallai oedden nhw'n meddwl oedd ddim gyda diddordeb yn y Gymraeg."
Yn ôl Mr Ahir mae angen i'r Eisteddfod "gwrdd â lot o gynulleidfaoedd lleiafrif ar draws Cymru" ac nid dim ond yn y dinasoedd mawr ond "bob un cornel o'r wlad a dangos iddyn nhw, beth bynnag yw eu cefndir, bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth sydd yn berthnasol iddyn nhw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019