Eisteddfod Môn 'o fewn oriau' i gael ei chanslo
- Cyhoeddwyd
Roedd Eisteddfod Genedlaethol eleni "o fewn ychydig oriau" i gael ei chanslo - a hynny am y tro cyntaf yn ei hanes - yn ôl adroddiad i gyngor y brifwyl.
Cafodd yr ŵyl ei heffeithio gan law trwm ar Ynys Môn ac fe gafodd y maes parcio ei symud i safle newydd.
Mae'r adroddiad yn dweud bod yr Eisteddfod wedi gorfod "gweithredu cynllun B" a hynny "am y tro cyntaf."
Yn ôl y ddogfen, roedd yr ŵyl yn "fodlon iawn" gyda'r ffordd y gweithiodd y cynllun hwnnw.
Fe wnaeth yr ŵyl ym Môn adael gweddill ar ôl i'r gronfa leol gasglu mwy na'r nod.
'Cynllun B'
Yn wreiddiol, roedd maes parcio'r brifwyl ym Môn gyferbyn â safle'r brifwyl ym Modedern. Ond yn dilyn y tywydd garw dros y penwythnos cyntaf, cafodd ei symud i dir ger maes parcio Sioe Môn ym Mona.
Er mai trefniant dros dro oedd hwn i gychwyn, cafodd ei ymestyn am weddill yr wythnos.
"Yn dilyn y glaw, ni fu modd defnyddio'r meysydd parcio wrth ymyl y Maes, a bu staff yn trafod ac yn dilyn cyngor gan yr Heddlu ynglŷn â hyn yn ystod yr wythnos," meddai'r adroddiad, dolen allanol.
"Am y tro cyntaf, bu'n rhaid gweithredu Cynllun B. Heb y cynllun hwn mewn lle ac yn barod i'w weithredu o fewn ychydig oriau, ni fyddai'r ŵyl wedi gallu parhau.
"Roeddem yn fodlon iawn gyda'r ffordd y gweithiodd y cynllun wrth gefn, ac er bod ciwiau'n broblem, yn enwedig ar y bore Llun wrth i'r system ddod i drefn, roedd y rhan fwyaf o ymwelwyr yn fodlon gyda'r hyn a drefnwyd a sut y gweithiodd pethau am weddill yr wythnos."
Mae'r adroddiad yn cydnabod cymorth gwirfoddolwyr o Glwb Rygbi Llangefni a'r rheiny fu'n helpu Eisteddfodwyr oedd â cheir yn sownd.
Ond mae'r ddogfen hefyd yn cyfadde' bod angen gwelliannau yn y ddarpariaeth i bobl anabl, gan gydnabod bod llwybrau cerrig wedi achosi trafferthion i rai.
"Eleni, roedd rhai o'r cerrig yn fawr ac yn drwsgl ac achosodd hyn broblemau i rai ymwelwyr wrth geisio symud o gae i gae," meddai.
Mae'n ychwanegu bod angen "ystyried a oes gormod o lwybrau cerrig ar y Maes sy'n effeithio ar hygyrchedd", gan ddweud hefyd bod "angen creu llwybr pwrpasol ac addas ar gyfer ymwelwyr bregus ac anabl wedi'i oleuo" i gysylltu'r maes a'r maes parcio anabl a'r maes carafanau.
Fe fydd y brifwyl nesaf yn 2018 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, gyda chyhoeddiad dros y penwythnos mai yn Llanrwst fydd Eisteddfod 2019.