Almaeneg, Cymraeg ac ukeleles
- Cyhoeddwyd
Wedi newid iaith yr aelwyd i Gymraeg, mae perfformio mewn nosweithiau llawen gyda'u band ukelele wedi helpu'r teulu Maurer i ddysgu'r iaith.
Fe gyfarfu Mathias a Sonia Maurer yng Ngholeg Cerdd Saarbruecken yn yr Almaen. Roedd Mathias yn astudio'r ffidl a Sonia yn astudio'r fiola.
Ond erbyn hyn, mae'r ddau wedi ymgartrefu yn y Barri ym Mro Morgannwg, wedi dysgu Cymraeg ac yn manteisio ar unrhyw gyfle i siarad yr iaith.
Tair iaith ar yr aelwyd
Magwyd Sonia yn Lloegr, ond daw ei Mam hi'n wreiddiol o Gymru. Wedi cyfnod hir yn Lloegr, symudodd ei rhieni'n ôl i Fro Morgannwg. Mae tad Sonia, Bernard van Lierop, yn dysgu Cymraeg hefyd erbyn hyn.
''Dyn ni'n siarad Cymraeg bob dydd fel teulu, yn ogystal â Saesneg ac ychydig o Almaeneg. Gan mod i a Mathias yn siarad Cymraeg yn rhugl bellach, mae'n braf nad oes gan y plant iaith gyfrinachol eu hunain!" meddai Sonia.
Mae gan Mathias a Sonia ddwy o ferched, Steffi ac Annabel, sy'n mynychu ysgolion Cymraeg ym Mro Morgannwg.
Mae'r ddwy yn helpu eu rhieni a'u tad-cu gyda'r Gymraeg.
"Maen nhw'n wych, ac yn amyneddgar iawn," meddai Mathias.
Ond nid gyda'r plant yn unig y mae cyfle i ymarfer y Gymraeg. Mae gan y teulu fand ukelele o'r enw Y Sanau Drewllyd. Gyda'i gilydd, maen nhw'n ymarfer ac yn perfformio mewn nosweithiau llawen.
Yn deulu o gerddorion mae'r plant yn gallu troi eu llaw at nifer o offerynnau yn cynnwys y piano, y delyn a'r gitâr.
Ond dewis band y teulu yw'r ukelele.
"Maen nhw'n rhad ac yn hawdd," meddai Mathias oedd yn arfer canu'r ffidl yng ngherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Bernard ei fod e, hyd yn oed, yn gallu canu'r ukelele, er ei fod yn honni ei fod "yn anobeithiol".
Mae canu a chwarae caneuon Cymraeg wedi eu helpu nhw i ddefnyddio eu Cymraeg.
"Rydyn ni'n cwrdd â phobl yn y noson lawen," eglura Mathias "a bob tro rwyt ti'n cwrdd â rhywun sy'n siarad Cymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol mae'n troi'n fwy naturiol i fi ac yn fwy normal."
Hefyd o ddiddordeb: