ASau'n gwrthod etholiad cyffredinol brys am yr eildro
- Cyhoeddwyd
Mae mwyafrif ASau Cymru wedi gwrthod ymgais Boris Johnson i gynnal etholiad cyffredinol brys ym mis Hydref wrth iddo fethu â sicrhau digon o gefnogaeth yn y Senedd i'r cam am yr eildro.
Doedd y 293 o bleidleisiau o blaid y cynnig ddim yn ddigon i sicrhau'r gefnogaeth angenrheidiol i fwrw ymlaen gydag etholiad, sef dwy ran o dair o Aelodau Seneddol.
Cafodd y bleidlais ei chynnal cyn i benderfyniad dadleuol llywodraeth Mr Johnson i atal y Senedd am bum wythnos ddod i rym.
Mae ASau'r gwrthbleidiau eisiau sicrhau deddfwriaeth yn atal Brexit digytundeb cyn cynnal etholiad cyffredinol.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, mae oedi'r Senedd am bum wythnos yn golygu bod democratiaeth yn cael ei "atal yn fwriadol" wrth i'r llywodraeth "osgoi'r gyfraith" a bod hynny "ddim yn normal nac yn anrhydeddus".
Gan wrthwynebu dod â'r Senedd i ben yn gynnar, dywedodd AS Llafur Torfaen Nick Thomas-Symonds bod angen i ASau fod yno ar bob cyfle hyd at 31 Hydref - diwrnod ymadael yr Undeb Ewropeaidd, fel y mae pethau'n sefyll - "er mwyn craffu ar y llywodaeth ar y cyfnod allweddol bwysig yma o ran dyfodol ein gwlad".
'Diffyg parch at etholwyr'
Ar raglen Post Cyntaf ddydd Mawrth, dywedodd AS newydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Sir Maesyfed, Jane Dodds y bydd ei phlaid yn treulio'r wythnosau nesaf yn pwyso i "ganslo Brexit".
"Rydyn ni wedi bod yn glir iawn fel plaid," meddai. "Mae Brexit wedi bod yn mess."
Mewn neges Twitter, ysgrifennodd AS Ceidwadol Mynwy, David Davies: "Mae ASau'r gwrthbleidiau newydd bleidleisio'r funud hon yn erbyn cynnal etholiad ac maen nhw nawr yn cwyno am 'ddiffyg democratiaeth'."
Dywedodd yntau wrth Post Cyntaf eu bod "wedi dangos diffyg parch at etholwyr Prydain" ac bod angen "mynd yn ôl at y cyhoedd gan fod y Ceidwadwyr yn cydnabod does dim mwyafrif gyda ni".
Atal y Senedd
Mae disgwyl i ASau ddychwelyd i San Steffan ar 14 Hydref.
46 o ASau wnaeth bleidleisio'n ffurfiol yn erbyn cynnig y Prif Weinidog, gan gynnwys saith AS Llafur Cymru, tri AS Plaid Cymru a Jane Dodds, AS newydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond gan fod angen cefnogaeth dwy ran o dair o'r ASau roedd modd gwrthod y cynnig drwy ymatal pleidlais.
Yn dilyn y bleidlais fe wnaeth ASau Llafur a Phlaid Cymru wrthod cymryd rhan yn seremoni arferol atal y Senedd yn Nhŷ'r Cyffredin.
Yn gynharach nos Lun fe bleidleisiodd 28 o ASau Llafur Cymru, pedwar AS Plaid Cymru, Jane Dodds a'r AS annibynnol, Guto Bebb o blaid rhyddhau'r holl ddogfennau a negeseuon yn ymwneud ag Operation Yellowhammer - sef cynlluniau wrth gefn y llywodraeth o ran Brexit digytundeb - a'r broses o ddod i'r penderfyniad i atal y Senedd gan y Llywodraeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2019
- Cyhoeddwyd6 Medi 2019
- Cyhoeddwyd4 Medi 2019
- Cyhoeddwyd4 Medi 2019