'Angen gwella gofal i bobl hŷn sydd wedi disgyn'
- Cyhoeddwyd
Mae yna ormod o wahanol ffyrdd i drin pobl hŷn sydd mewn risg o ddisgyn neu wedi disgyn, yn ôl adroddiad gan gorff iechyd.
Dywed Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) y gall diffyg cyfathrebu rhwng gwasanaethau atal cleifion rhag cael y gofal gorau.
Mae'r corff yn galw am gysondeb yn y safonau mewn gwasanaethau i gleifion ar draws Cymru.
Disgyniadau yw'r rheswm mwyaf cyffredin dros alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans ledled y Deyrnas Unedig.
Mae un ymhob tri pherson dros 65 oed yn debygol o ddisgyn yn y 12 mis nesaf yn y DU - gyda'r ffigwr yn codi i un ymhob dau o bobl dros 80.
'Mwy hyderus'
Aeth Llinos Dafis, 78, i glinig wythnosol yn Y Borth, Ceredigion, yn 2014 wedi iddi syrthio'n ddifrifol ddwywaith dros gyfnod byr.
"Roeddwn i'n syrthio'n aml, ond wastad yn codi 'nôl fyny," meddai.
"Bum mlynedd yn ôl torres i fy mraich ddwywaith o fewn naw mis a dyna pryd ges i fy nghyfeirio at y clinig gan fy ffisiotherapydd.
"Mae'r clinig yn helpu pobl i gryfhau eu cyhyrau, yn enwedig y rhai yn y coesau sy'n eich rhwystro chi rhag syrthio os ydych chi'n baglu.
"Doeddwn i ddim yn glaf pan es i i'r clinig, ond dwi wedi dod yn ymwybodol o'r ffordd rwy'n cerdded a'r ffordd mae'r cyhyrau yn gweithio pan dwi'n symud.
"Dwi 'di dysgu codi fy nhraed pan rwy'n cerdded, achos fy mod i'n baglu lot.
"Mae'r clinig wedi fy ngwneud i'n fwy hyderus pan rwy'n dod wyneb yn wyneb â disgyrchiant!"
Daeth AGIC i'r casgliad fod angen newid diwylliant er mwyn i'r hyn mae'r claf ei eisiau gael ei roi yn gyntaf.
Ychwanegodd y byddai cyfathrebu rhwng pawb sy'n cymryd rhan - gan gynnwys teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol fel fferyllwyr - yn arwain at well ansawdd bywyd i bobl hŷn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2019