80,000 yng Nghymru yn gymwys i hawlio mwy o bensiwn

  • Cyhoeddwyd
DynesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

O Fehefin 2020 dim ond pobl dros 75 oed sy'n hawlio Credyd Pensiwn fydd yn gallu cael trwydded deledu am ddim

Dydy bron i 80,000 o bobl yng Nghymru sy'n gymwys i hawlio mwy o arian pensiwn ddim yn gwneud hynny, yn ôl ffigyrau gan elusen Independent Age.

Gyda newid i system trwydded deledu yn golygu mai dim ond y rheiny sy'n hawlio Credyd Pensiwn sy'n gymwys am drwydded am ddim, mae pobl yn wynebu ergyd ariannol ychwanegol.

Mae elusennau wedi galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i wneud mwy fel bod pobl yn gwybod beth maen nhw'n gymwys amdano.

Dywedodd y DWP fod angen i bawb wneud cais am yr hyn maen nhw â hawl amdano.

Mae ymchwil Grant Thornton UK ar ran Independent Age yn amcangyfrif bod gwerth tua £214m o Gredyd Pensiwn yn mynd heb ei hawlio pob blwyddyn yng Nghymru.

O Fehefin 2020 dim ond pobl dros 75 oed sy'n hawlio Credyd Pensiwn fydd yn gallu cael trwydded deledu am ddim, yn hytrach na'r drefn bresennol o bawb dros 75.

Mae hynny'n golygu y bydd y rheiny sy'n gymwys am Gredyd Pensiwn ond sydd ddim yn ei hawlio yn gorfod talu am drwydded deledu yn ogystal.

'Sgandal'

Nod system Credyd Pensiwn yw sicrhau bod pob pensiynwr yn derbyn isafswm o £167.25 ar gyfer person sengl neu £255.25 am gwpl.

Dywedodd George McNamara o Independent Age ei bod yn "sgandal" fod pensiynwyr yn colli allan ar hyd at filoedd o bunnau bob blwyddyn.

"Dylai'r arian yna fod yn eu pocedi, ond dyw e ddim oherwydd diffyg gweithredu Llywodraeth y DU," meddai.

Dywedodd bod angen i'r llywodraeth ddiwygio Credyd Pensiwn ar frys, yn enwedig oherwydd y newidiadau i'r system trwydded deledu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwil yn amcangyfrif bod gwerth tua £214m o Gredyd Pensiwn yn mynd heb ei hawlio pob blwyddyn yng Nghymru

Yn ôl Michael Phillips o elusen Age Cymru, pe bai pawb sy'n gymwys i hawlio Credyd Pensiwn yn gwneud hynny, y gallai "helpu miloedd o bobl hŷn yng Nghymru rhag byw mewn tlodi".

"Mae nifer o resymau pam na fyddai pobl yn ei hawlio," meddai.

"Efallai nad ydyn nhw'n gwybod bod y budd-dal yn bodoli, ddim yn awyddus i fynd trwy'r broses o'i hawlio, yn teimlo bod stigma ynglŷn â hawlio budd-daliadau neu'n byw gyda dementia."

Dywedodd llefarydd o'r DWP bod mesurau mewn grym er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod am yr hyn maen nhw'n gallu ei hawlio.

Ychwanegodd bod cyfraddau tlodi pensiynwyr wedi "gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf" a'u bod eisiau i bawb wneud cais am yr hyn y maen nhw'n gymwys i'w hawlio.

"Mae pawb sy'n hawlio eu Pensiwn Gwladol yn derbyn llythyr sy'n eu hannog i gysylltu â ni'n uniongyrchol ar y ffôn i drafod eu hawl i Gredyd Pensiwn."