Chwilio am wirfoddolwyr Arwr Tawel BBC Cymru 2019

  • Cyhoeddwyd
arwr tawel

Mae gwobr Arwr Tawel BBC Cymru yn dychwelyd i ddathlu gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser i helpu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chadw yn heini ar lawr gwlad.

Mae BBC Cymru yn chwilio am y gwirfoddolwyr mwyaf deinamig, blaengar a gweithgar ar draws Cymru sy'n ysbrydoli pobl o bob oed i gadw'n heini yn eu cymuned yn ystod y 12 mis diwethaf â stori ysbrydoledig i rannu.

Unwaith eto, rydyn ni'n gofyn i chi enwebu Arwr Tawel o'ch ardal chi.

Anfonwch eich enwebiadau heddiw!

Llynedd Asa Waite o Gasnewydd, sydd yn hyfforddi pêl-fasged ac yn rhedeg sesiynau hyfforddi a gemau i bobl ifanc, ddaeth i'r brig. Dywedodd fod cipio'r teitl wedi bod yn "fraint".

"Roedd y wobr yn rhywbeth byddwn ni byth wedi breuddwydio amdano a byddwn i wedi methu ennill heb gefnogaeth y cyfranogwyr, rhieni a'r gwarchodwyr," meddai.

"Mae ennill y wobr wedi rhoi mwy o hyder i mi ac yn gwneud imi sylweddoli fy mod i'n gwneud gwahaniaeth i ddim ond pobl ifanc lleol ond i Gasnewydd ei hunan hefyd."

'Arwydd o barch'

Efallai bod y person y byddwch yn enwebu yn cynnal dosbarthiadau cadw'n heini yn lleol neu yn stiward ymhob tywydd ar gyfer rhedwyr y 5km wythnosol neu'n gyfrifol am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y clybiau dawns yn eich cymuned.

Mae'n werth rhoi cynnig arni, dydy? Ewch ati i gydnabod yr unigolyn sydd bob amser yn rhoi pobl eraill yn gyntaf drwy ei enwebu ar gyfer gwobrau 2019.

Ffynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Asa Waite - a ddaeth i'r brig yn 2018 - bod cipio'r wobr wedi rhoi hyder ychwanegol iddo

Dywedodd Geoff Williams, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru: "Mae'r wobr i'r Arwr Tawel yn arwydd o barch at y bobl hynny sy'n troi fyny, dod â phobl at ei gilydd a gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.

"Mae gwirfoddoli yn rhan annatod o chwaraeon ac mae e'n anhygoel gallu cydnabod y rheiny sydd wir yn haeddu'r clod."

Bydd enillydd Arwr Tawel BBC Cymru yn derbyn y wobr yn ystod seremoni genedlaethol Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ar 10 Rhagfyr yn Celtic Manor Casnewydd ac yn cystadlu yn erbyn enillwyr eraill o'r Alban, Gogledd Iwerddon a 12 o'r rhanbarthau Lloegr ar gyfer y wobr Arwr Tawel y BBC Get Inspired 2019.

Sut i enwebu?

Dywedwch pam fod yr unigolyn rydych chi'n ei enwebu'n haeddu bod yn Arwr Tawel Get Inspired y BBC.

Gallwch wneud cais drwy wneud y canlynol:

Mae'r rheolau i'w gweld yn y telerau ac amodau.

Rhaid enwebu eich Arwr Tawel cyn y dyddiad cau, sef 23:59, dydd Sul 20 Hydref 2019.

Bydd y rhestr fer yn cael ei chyhoeddi yn y dyddiau'n arwain tuag at seremoni genedlaethol Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ym mis Rhagfyr.