Galw am ddysgu cymorth cyntaf ym mhob ysgol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mater i ysgolion unigol yw penderfynu a ydyn nhw'n cynnwys cymorth cyntaf o fewn y cwricwlwm
A hithau'n Ddiwrnod Cymorth Cyntaf y Byd ddydd Sadwrn, mae 'na alw am gyflwyno gwersi sgiliau achub bywyd ym mhob ysgol yng Nghymru.
Yn ôl ymchwil diweddar gan elusen y Groes Goch, mae bron i 90% o ddisgyblion Cymru'n credu mai cymorth cyntaf yw un o'r gwersi pwysicaf y gallan nhw ei gael.
Ychwanegwyd bod 58% o blant ddim yn teimlo y bydden nhw'n gwybod beth i'w wneud pe bydden nhw'n gweld rhywun wedi brifo ac angen help.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai dewis pob ysgol unigol fyddai darparu gwersi o'r fath o dan y cwricwlwm newydd.
'Brwdfrydig iawn'
Dywedodd Dafydd Beech o'r Groes Goch: "'Da ni wedi bod yn ymgyrchu'n galed iawn i drio cael sgiliau cymorth cynta' ar y cwricwlwm newydd, a mi fyddwn ni'n gwybod beth fydd canlyniad hynny diwedd mis nesa' gobeithio.
"Yr ymateb 'da ni'n ei gael gan ysgolion - yr athrawon a'r bobl ifanc - ydy eu bod nhw'n frwdfrydig iawn.
"'Da ni wedi torri'r sgiliau i lawr i'w gwneud nhw'n hawdd iawn i'w cofio, felly os oes rhywbeth yn digwydd, eu bod nhw'n gallu cofio'r pethau 'ma yn sydyn iawn."

Dywedodd Dafydd Beech bod y Groes Goch wedi "ymgyrchu'n galed iawn i drio cael sgiliau cymorth cynta' ar y cwricwlwm newydd"
Yn ôl pennaeth Ysgol Gynradd Llanllechid ger Bethesda, Gwenan Davies-Jones: "Mae gennym ni rhywfaint o hyblygrwydd efo'r cwricwlwm dyddia' yma, a dwi'n teimlo'n gryf y dylai o fod yn rhan o'r arlwy 'da ni'n rhoi i bob plentyn ysgol gynradd.
"'Da ni wedi gwneud hynny, a 'da ni'n gweld effaith hynny hefyd wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
"Maen nhw'n fwy hyderus ac os ydyn nhw'n dod wyneb i wyneb â sefyllfa lle mae rhywun wedi brifo, mae ganddyn nhw wybodaeth eitha' trylwyr ac yn gwybod sut i weithredu."

Dywedodd Gwenan Davies-Jones y dylid rhoi gwersi cymorth cyntaf ym mhob ysgol gynradd
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd athrawon yn gallu canolbwyntio ar lawer o bynciau iechyd a lles o fewn y cwricwlwm newydd, gan gynnwys cymorth cyntaf.
Er hynny, mater i ysgolion unigol fydd penderfynu sut i gynnwys y cyfleoedd dysgu yna o fewn y cwricwlwm.
Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r ymgynghoriad ar y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i'r fersiwn derfynol gael ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2017
- Cyhoeddwyd10 Medi 2016