'Gwella ffyrdd a band eang yw'r allwedd i fusnesau bach'
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu gwariant ar ffyrdd lleol a chysylltiadau â'r rhyngrwyd yn hytrach na chynlluniau seilwaith mawr fel ffordd osgoi'r M4.
Dyna mae aelodau Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi ei ddweud mewn arolwg newydd.
Mae'r corff yn dweud bod dirfawr angen gwella ansawdd ffyrdd lleol ar draws Cymru am eu bod nhw'n arwain at gostau cynyddol sydd wedyn yn effeithio ar eu helw.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r arian a fyddai'n dod yn lle cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd - o leiaf £100m - i awdurdodau lleol i greu cronfa trafnidiaeth leol.
Yn ôl y llywodraeth maen nhw eisoes wedi clustnodi £6.5bn i'w wario ar gynlluniau seilwaith.
Cafodd 348 o fusnesau eu holi gan Ffederasiwn y Busnesau Bach ar gyfer yr adroddiad, ac roedd 86% o'r rhai atebodd wedi nodi bod "buddsoddi mewn seilwaith ffyrdd" yn "eithaf pwysig" neu'n "bwysig iawn".
Y blaenoriaethau eraill i fusnesau oedd "gwell rheolaeth o draffig er mwyn lleihau oedi" a "gwell trafnidiaeth yng nghefn gwlad".
Dywedodd un busnes bod damweiniau ffordd a chiwio yn golygu eu bod nhw'n aml yn hwyr i gyfarfodydd ac yn methu apwyntiadau.
Mae'r ffederasiwn hefyd yn dweud bod rhaid i Gymru fod ar flaen y gad drwy fod â'r rhwydweithiau we a 5G gorau ym Mhrydain.
Yn ôl llefarydd mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £6.5bn mewn cynlluniau rhwng 2018 a 2021 ac fe fydd "buddsoddi mewn seilwaith yn chwarae rhan allweddol mewn ffyniant economaidd".
"Dyma pam rydym ni wedi sefydlu'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru er mwyn cynghori ar ein hanghenion rhwydweithiau hirdymor, ac mae gennym gynllun uchelgeisiol i fuddsoddi yn ein rhwydweithiau cyhoeddus ar draws Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau trafnidiaeth strategaethol megis cynllun Metro De Cymru, datblygu Metro Gogledd Ddwyrain Cymru a'r rhyddfraint rheilffyrdd newydd gwerth £5bn."
Fe gadarnhaodd y llefarydd y bydd y llywodraeth yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion maes o law.