Gwrthdrawiad Cleddau: Cyhoeddi enw diffoddwr tân a fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae enw diffoddwr tân a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gwch ar afon Cleddau ger Lawrenni, Sir Benfro ddydd Mawrth wedi cael ei gyhoeddi.
Bu farw Josh Gardener, 35, oedd yn gweithio i'r gwasanaeth tân mewn wrth gymryd rhan mewn ymarferiad badau achub.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 11:30 fore Mawrth i Neyland gerllaw wedi adroddiadau bod dau gwch wedi gwrthdaro.
Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Chris Davies bod "ymchwiliad nawr yn cael ei gynnal ar y cyd gyda Heddlu Dyfed-Powys a'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol".
'Person hyfryd'
Mewn teyrnged ar y we dywedodd Kevin Dunne, oedd wedi gweithio gyda Mr Gardener: "Roedd Josh yn berson hyfryd, roedd yn bleser cydweithio gydag e.
"Roedd yn bleser i fod o'i gwmpas. Bydd yn cael ei fethu ac rwy'n anfon fy nghydymdeimlad i'w deulu a ffrindiau."
Mewn teyrnged arall ar wefan i gasglu arian i blant Mr Gardener, dywedodd Callum Evers: "Dwi'n drist iawn i glywed y newyddion yma, fe weithiais gyda Josh ar rai achlysuron ac roedd yn berson hyfryd.
"Cwsg yn dawel Josh."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Undeb y Frigâd Dân y byddai ymchwiliad i sicrhau bod "gwersi'n cael eu dysgu".
"Rydym yn drist iawn i glywed am golled ein brawd yng Nghymru, a fu farw wrth gyflawni ymarferiad ar gyfer achub ar y dŵr.
"Rydym yn cydymdeimlo gyda'r teulu a ffrindiau yn y cyfnod anodd yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019