Rhys Patchell yn holliach i herio Georgia ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae'r maswr Rhys Patchell yn dweud ei fod yn holliach i wynebu Georgia yng ngêm agoriadol Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddydd Llun.
Bu'n rhaid i Patchell, 26, adael y maes ar ôl dioddef anaf i'w ben yn erbyn Iwerddon yng ngêm baratoadol olaf Cymru ar gyfer y bencampwriaeth.
Fe wnaeth y maswr ddioddef dau anaf i'w ben tra'n chwarae dros y Scarlets yn nhymor 2018-19.
"Mae dychwelyd i chwarae'n mynd yn iawn ac rydw i ar gael i gael fy newis," meddai Patchell.
Roedd pryder y byddai'n colli Cwpan y Byd oherwydd yr ergyd i'w ben, ond mae bellach wedi cwblhau protocol cyfergyd.
Mae Patchell yn un o ddau faswr sydd gan Gymru allan yn Japan, ynghyd â Dan Biggar.
"Mae'r pethau 'ma yn cymryd amser - rydw i wedi dysgu hynny dros y blynyddoedd," meddai Patchell.
"Does dim pwynt poeni am y peth - mae'n rhaid i chi fod yn synhwyrol ac ymlaciedig."
Fe wnaeth y garfan deithio ddydd Iau o Kitakyushu i ddinas Toyota - ble byddan nhw'n herio Georgia ddydd Llun.
Daeth i'r amlwg ddechrau'r wythnos bod hyfforddwr yr olwyr, Rob Howley, wedi ei yrru adref o Japan yn dilyn honiadau ei fod wedi torri rheolau betio'r gamp.
'Canolbwyntio ar y rygbi'
Dywedodd Patchell ei fod wedi teimlo cyfrifoldeb i fod yn fwy o arweinydd yn dilyn hynny oherwydd y safle mae'n ei chwarae ar y cae.
"Mae bod yn arweinydd yn rhan o'r swydd ddisgrifiad," meddai.
"Mae'n rhaid i chi geisio deall neges yr hyfforddwyr a gweithredu hynny ar y maes ymarfer ac yn y gêm.
"Mae beth bynnag ddigwyddodd yn y gorffennol ac mae popeth nawr am edrych ymlaen.
"Does dim pwynt edrych yn ôl. Yn anffodus mae hyn wedi digwydd ond nawr mae angen canolbwyntio ar y rygbi."
Cyn-faswr Cymru, Stephen Jones, sydd wedi camu i rôl Howley - swydd roedd eisoes am ddechrau ynddi yn dilyn Cwpan y Byd.
Mae Patchell yn gyfarwydd iawn gyda Jones o'i waith fel hyfforddwr olwyr y Scarlets, ac yn dweud bod ganddo lawer i'w gyfrannu i'r garfan.
"Mae Stephen yn hyfforddwr gwych. Mae ganddo lawer o frwdfrydedd at y gêm ac mae ganddo ddealltwriaeth o sut y dylai'r gêm gael ei chwarae," meddai Patchell.
"Rwy'n meddwl y bydd y bois yn mwynhau'r hyn sydd ganddo i'w gynnig, ac rwy'n siŵr y byddwch yn gweld ychydig o ddylanwad Stephen hyd yn oed ar gyfer gêm Georgia."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019