Cwpan Rygbi'r Byd: Cyhoeddi tîm Cymru i wynebu Georgia
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi'r tîm fydd yn wynebu Georgia ddydd Llun yn gêm agoriadol Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn Japan.
Bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones yn ennill cap rhif 129 i'w wlad pan fydd yn arwain Cymru allan yn Toyota.
Daeth cyhoeddiad bydd y blaenasgellwr Aaron Wainwright yn dechrau yn lle Ross Moriaty.
Bydd Josh Navidi yn dechrau yn safle'r wythwr a Justin Tipuric yn chwarae yn y rheng ôl.
'Galluog yn y sgrym'
Ken Owens fydd yn dechrau ei gêm gyntaf yn ei drydedd gystadleuaeth Cwpan y Byd pan fydd yn chwarae yn safle'r bachwr.
Dywedodd Warren Gatland: "Rydym yn gwybod pa mor gryf yw Georgia yn y sgrym.
"Mae'n rhaid i ni fod yn alluog yn y sgrym. Rydym wedi bod yn hapus gyda sut mae Wyn wedi bod yn ymarfer yn y sgrym ac mae'n un o'i gryfderau.
"Mae'n rhywbeth rydym wedi bod yn canolbwyntio arno drwy'r wythnos," meddai.
Gyda Cory Hill ac Adam Beard yn absennol drwy anafiadau, bydd Jake Ball yn ymuno ag Alun Wyn Jones yn yr ail reng gyda Aaron Shingler ar y fainc.
Bydd Jonathan Davies ac Hadleigh Parkes yng nghanol y cae i Gymru, gyda Liam Williams yn safle'r cefnwr a Josh Adams a George North ar yr esgyll.
Ychwanegodd Gatland bod Stephen Jones wedi ymateb yn syth i ymadawiad Rob Howley o'r garfan yn dilyn amheuon ei fod wedi bod yn betio ar gemau rygbi.
"Mae Stephen wedi gwneud yn dda i ddal fyny gyda phopeth.
"Mae wedi dod fewn ac wedi cael cyfarfod gydag ein person dadansoddi, Dan Biggar a Jonathan Davies.
"Fe gymrodd ran mewn sesiwn lawn o ymarfer heddiw.
"Mae'n berson poblogaidd, felly mae wedi ffitio'i fewn yn syth," meddai.
Bydd Cymru yn wynebu Georgia ddydd Llun gyda'r gic gyntaf am 11:15 GMT.
Tîm Cymru i wynebu Georgia:
Liam Williams (Saracens); George North (Gweilch), Jonathan Davies (Scarlets), Hadleigh Parkes (Scarlets), Josh Adams (Gleision); Dan Biggar (Northampton Saints), Gareth Davies (Scarlets); Wyn Jones (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Tomas Francis (Caerwysg), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (capten, Gweilch), Aaron Wainwright (Dreigiau), Justin Tipuric (Gweilch), Josh Navidi (Gleision).
Eilyddion: Nicky Smith (Gweilch), Elliot Dee (Dreigiau), Dillon Lewis (Gleision), Aaron Shingler (Scarlets), Ross Moriarty (Dreigiau), Tomos Williams (Gleision), Rhys Patchell (Scarlets), Leigh Halfpenny (Scarlets)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019
- Cyhoeddwyd1 Medi 2019
- Cyhoeddwyd8 Medi 2019