Datgomisiynu dau safle niwclear i gostio £2.8bn
- Cyhoeddwyd

Mae'r broses ddatgomisiynu wedi dechrau yn Nhrawsfynydd ers dros chwarter canrif
Bydd angen gwario bron i £2.8bn ar ddatgomisiynu a glanhau dau gyn-safle niwclear yng ngogledd Cymru, yn ôl yr awdurdod sy'n gyfrifol am y gwaith.
Dywedodd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear bod hynny ar ben yr hyn sydd eisoes wedi'i wario ar y safleoedd yn Nhrawsfynydd a gogledd Môn.
Yr amcangyfrif yw mai £1.335bn fydd y gost o glirio'r safle yn Nhrawsfynydd, er bod y broses ddatgomisiynu wedi dechrau yno ers dros chwarter canrif.
Mae'r corff yn credu y bydd y gwaith hynny yn Wylfa, wnaeth orffen cynhyrchu ynni yn 2015, yn costio £1.443bn.
Fe wnaeth y fflasg olaf o danwydd niwclear adael y safle yr wythnos hon.

Fe wnaeth gorsaf bŵer Wylfa orffen cynhyrchu ynni yn 2015
Amcangyfrif yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear ar gyfer datgomisiynu eu 17 safle yn y DU yw £131bn, gyda £90bn o hwnnw yn cael ei wario ar safle Sellafield yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Mae mwyafrif y gwaith yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, ac fe allai gymryd hyd at 120 o flynyddoedd.
Ar hyn o bryd mae tua £3bn y flwyddyn yn cael ei wario ar ddatgomisiynu.
Mae'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear yn cyfaddef bod "ansicrwydd" ynglŷn â'r amcangyfrifon oherwydd y raddfa amser.

Dywedodd Robat Idris bod gwario ar y diwydiant niwclear yn "bwll di-waelod"
Dywedodd Robat Idris o'r grŵp gwrth-niwclear Pobol Atal Wylfa B (PAWB) bod y ffigyrau yn adlewyrchu eu pryderon bod ynni niwclear yn rhy ddrud.
"Fel yr arfer, mae'r diwydiant niwclear yn gorwario ar draul y trethdalwr," meddai.
"Mae'r costau yn cael eu cuddio - dydyn nhw ddim yn rhai amlwg i neb - ond maen nhw yna, ac mae 'dwn i ddim faint wedi'i wario cynt.
"Dwi'n meddwl mai'r wers ydy bod niwclear yn llawer iawn rhy ddrud. Pwll di-waelod ydy gwario ar y diwydiant niwclear."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2017