Ateb y Galw: Ann Evans, rhedwr marathons ultra

  • Cyhoeddwyd
Ann EvansFfynhonnell y llun, Ann Evans

Ann Evans sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddi gael ei henwebu gan Hywyn Williams yr wythnos diwethaf.

Mae Ann yn gyn-athrawes o Ferthyr Tudful sydd bellach yn mwynhau herio ei hun drwy redeg marathons ultra, ynghyd â chynnal gwersi ffitrwydd mewn campfa leol. Yn 2018, rhedodd ras bum diwrnod yn yr Amazon, ac mae â'i bryd ar redeg ras hir yn Kenya yn 2020.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Siglo ar y gadair uchel a cwympo nôl a bwrw mhen yn erbyn y sideboard, ar y fferm tu fas i Eglwyswrw yng ngogledd Sir Benfro. O'n i siŵr o fod tua 18 mis.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

David Essex. A hyd yn oed nawr, mae'n hen ddyn, a ma' fe dal yn olygus. O'dd e'n un o'r rheiny ti ddim fod i ffansio, ond ti methu stopo dy hunan!

Ffynhonnell y llun, Michael Putland
Disgrifiad o’r llun,

Y 'bad boy' ei hun - David Essex

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O'n i siŵr o fod tua 11, a'n chwaer i'n naw, ac o'dden ni'n ddrygionus iawn. O'dden ni wedi penderfynu trio ysmygu, so ethon ni draw i'r goedwig a rolio dail sych lan mewn hances bapur, a cynnu fe. Ac a'th y 'sigaret' hyn i lawr ar y llawr gyda'r dail sych, ac a'th y goedwig ar dân, a daeth y frigâd dân mas o Grymych ac Aberteifi ac Abergwaun. O'dd craith ar y tir ble roedd coed newydd wedi tyfu'n ôl am flynydde.

Dim ond rhyw dair blynedd yn ôl 'naethon ni ddweud wrth ein mam - o'dd hi yn ei 90au erbyn 'ny. A dd'wedodd hi 'Ann fach, o'n i'n gwybod 'na flynydde'n ôl!'. A finne wedi bod yn cario hwn yr holl flynydde!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Echnos, yn gwylio rhaglen Gareth Thomas: HIV and Me. Mae e'n dda iawn iawn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi'n ewinedd. Dwi 'di trial stopio gymaint o weithie a methu. Os dwi'n cael stwff fel shellac arnyn nhw o fewn diwrnod dwi 'di pigo fe i ffwrdd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Traeth y Mwnt, tu fas i Aberteifi, neu Porthgain. Ym Mhorthgain, o'dd fy merch i'n credu bod 'na fôr-forwyn yn byw - o'dd hi tua 12 oed pan 'nath hi sylweddoli mai ni oedd yn gwneud sŵn y fôr-forwyn!

Disgrifiad o’r llun,

Porthgain - ai cewyll môr-forynion sydd i'w gweld yma?

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi newydd fod i noson agored London Fashion Week Julien Macdonald. O'dd yr holl beth yn arbennig iawn.

O'dd e ddim yn rhywbeth o'n i'n meddwl bydden i'n ei wneud, ond mae ei chwaer e yn dod i'r gym ble dwi'n hyfforddi, a ddywedodd hi y bydde hi'n cael tocynnau i ni.

O'dd e'n Eglwys Gadeiriol Southwark a phwy o'dd o 'mlaen i yn y ciw oedd [y dylunydd dillad] Zandra Rhodes. Mae Zandra a fi nawr yn ffrindiau mynwesol! O'dd hi mor addfwyn, a Julien Macdonald yr un peth - dda'th e i chwilio amdanon ni i gael sgwrs.

Gafon ni wahoddiad wedyn i'r afterparty yn Mayfair, ac o'dd y ciw yn mynd lawr yr hewl. Gofynnodd y dyn security pwy oedden ni, wedon ni, ac aethon ni syth mewn! Ac o'dd 'na selebs yn y ciw, a dyma ni, merched bach o Ferthyr yn ca'l mynd mewn, a cha'l diodydd am ddim. Gafon ni'n sbwylio!

Ddylwn i ddweud noson ein priodas neu genedigaeth fy mhlant neu rywbeth ond...!

Ffynhonnell y llun, David M. Benett
Disgrifiad o’r llun,

Y dylunwyr dillad Julien Macdonald a Zandra Rhodes - dau o ffrindiau gydol-oes newydd Ann

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Egnïol, meddylgar ac uchelgeisiol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Y llyfrau The Color Purple a The Red Tent - maen nhw'n reit debyg mewn ffordd. O'dd The Color Purple y llyfr cynta' o'dd wir yn edrych ar female genital mutilation a mae e'n trafod lot o issueseraill. Falle heddiw fod e ddim mor syfrdanol, ond o'dd e tu fas i'r bocs ar y pryd. Mae e'n un o'r llyfre sydd wedi aros 'da fi.

Fy hoff ffilm yw Sunshine On Leith. Mae wedi ei leoli yng Nghaeredin, a phob haf pan o'n i'n fach, o'n ni'n mynd i'r Alban i weld teulu, a bydden ni'n mynd mewn i Gaeredin a chael lot o sbri yno. Dwi hefyd â diddordeb mewn dawns, felly mae'n cyfuno dawns a Chaeredin.

O archif Ateb y Galw:

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Dwi'n credu bydden i'n hoffi cael diod arall gyda'n fam. Yn y blynydde diwetha' bydden i'n teithio draw i Sir Benfro i'w gweld hi, a bydde hi wedi gofyn i'n chwaer i brynu prosecco. Os bydden i'n stressed, bydde hi'n dweud 'O Ann fach, ca'l 'chydig bach o'r bubbles 'na sy'n 'neud ti'n hapus - mae un yn y ffrij i ti'. 'Swn i'n hoffi potel arall o prosecco gyda'n fam.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n cysgu 12 awr bob nos. Dwi ddim yn dda iawn os ga' i ddim 12 awr!

Ac er mod i'n teithio tipyn, dwi wir wir ofni hedfan. Dwi'n gneud i'n hun 'neud e achos ma' gen i fab yn byw yn Barcelona, so ma'n rhaid i fi. Ond dwi'n uffern ar y ddaear mewn maes awyr.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd am run!

Beth yw dy hoff gân a pham?

I'r Gad gan Dafydd Iwan. Dyma Y gân yn y 70au pan fydde ni'n paentio arwyddion a dringo mastie yn ardal Crymych. Aeth y plant i Ysgol Rhydywaun a dyna oedd y gân oedd yn cael ei chanu yno - a hyd yn oed heddiw, ar ôl 'chydig o ddiod, rydyn ni'n dueddol o'i chanu hi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae anthem Dafydd Iwan yn teimlo mor berthnasol ag erioed

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Rhwydd. I ddechre, salad Caprese gyda mozzarella, tomato a basil. Dwi'n llysieuwraig, felly cannelloni spinach wedyn, ac i bwdin, sticky toffee pudding a saws caramel.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwi'n credu fydden i'n hoffi bod yn Mo Farrah, i allu rhedeg mor gyflym â fe a gwybod ei gyfrinache fe i gyd.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw