Y clo Cory Hill yn gadael Japan oherwydd anaf

  • Cyhoeddwyd
Cory Hill

Bydd clo Cymru, Cory Hill, yn dychwelyd i Gymru o Gwpan Rygbi'r Byd oherwydd anaf.

Dyw Hill ddim wedi gwella o anaf i'w goes a gafodd yn ystod y gêm yn erbyn Lloegr ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Chwefror.

Roedd ganddo doriad i asgwrn yn ei goes, ond roedd y tîm hyfforddi wedi gobeithio y byddai'n gwella'n ddigonol i chwarae rhan yn y gystadleuaeth yn nes ymlaen.

Nid yw hynny wedi digwydd ac fe fydd Hill yn dod adre.

Mae clo arall yn y garfan, Adam Beard, yn dal i wella wedi iddo gael llawdriniaeth yn gynharach yn yr haf.

Fe fydd Bradley Davies yn hedfan i Japan i gymryd ei le yn y garfan.

Bydd gêm nesaf Cymru yn erbyn Awstralia ddydd Sul.