Undeb addysg yn galw am fwy o gefnogaeth i athrawon
- Cyhoeddwyd
Rhaid rhoi mwy o gefnogaeth i athrawon Cymru, yn ôl undeb addysg.
Daw'r alwad gan UCAC ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod dros 3,500 wedi gadael y proffesiwn cyn oed ymddeol yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
Ond yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru mae'r sefyllfa wedi gwella yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, gyda gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n gadael eu swyddi.
"Yn bendant mae 'na ganran o athrawon sydd ddim rhagor yn gallu ymdopi a'r gofynion sydd arnyn nhw," meddai Rebecca Williams, is-ysgrifennydd cyffredinol UCAC.
Mae'r undeb yn dweud mai cyfuniad o bwysau gwaith, oriau hir, a'r angen cynyddol i roi cefnogaeth emosiynol i rai disgyblion sy'n gyfrifol am hynny.
Ond maen nhw'n cydnabod fod gan Lywodraeth Cymru nifer o brosiectau ar y gweill i geisio gwella'r sefyllfa.
Dangosodd ffigyrau'r llywodraeth fod 609 wedi gadael eu swyddi cyn oed ymddeol yn 2018, o'i gymharu â 698 yn 2017, a 814 yn 2016.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cyflwyno adnoddau i leihau llwyth gwaith athrawon, wedi symud i asesiadau ar-lein sydd wedi helpu i leihau gwaith papur, ac rydym wedi buddsoddi £36m i leihau maint dosbarthiadau.
"Yn ogystal, yn ddiweddar, rydym wedi cynnig codiad cyflog o 5% i athrawon.
"Rydym eisoes wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu eu cynlluniau o ran cyllidebau'r dyfodol er mwyn i ni, yn ein tro, allu cynllunio gwariant hirdymor ar addysg yng Nghymru."
Dadansoddiad Gohebydd Addysg BBC Cymru, Bethan Lewis
Yn ogystal â chadw athrawon yn y proffesiwn mae denu rhai newydd yn her.
Ac nid yr undebau dysgu yn unig sy'n poeni am hynny.
Mae'r Cyngor Gweithlu Addysg wedi dweud bod pryder am nifer yr athrawon mewn rhai meysydd fel gwyddoniaeth a'r ieithoedd modern, a'r broblem ar ei dwysaf yn y sector cyfrwng Cymraeg.
Mae targedau ar gyfer myfyrwyr ymarfer dysgu ond dangosodd y ffigyrau diweddaraf ar gyfer 2017/18 bod 40% yn llai na'r targed wedi dechrau ar eu siwrne i'r 'stafell ddosbarth.
Mae nifer o fesurau i geisio denu, nid yn unig y niferoedd ond y goreuon, i ddysgu, gyda her a chyfleodd y cwricwlwm newydd o'u blaenau.
Ond eisoes mae rhai'n ei ddisgrifio'n argyfwng, a phrin yw'r rheini fyddai'n gwadu mai dyma un o'r sialensiau pennaf sy'n wynebu'r byd addysg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2017