Cwpan Rygbi'r Byd: Dim newid i dîm Cymru i herio Awstralia

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alun Wyn Jones yn torri'r record am y nifer fwyaf o gapiau dros Cymru ddydd Sul

Mae Warren Gatland wedi cadw gyda'r un 15 a drechodd Georgia ddechrau'r wythnos ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddydd Sul.

Bydd y capten, Alun Wyn Jones yn ennill cap rhif 130 yn erbyn gêm, gan dorri record Gethin Jenkins am y nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol dros Gymru.

Un newid sydd ymysg yr eilyddion, gyda'r canolwr Owen Watkin yn cael ei ffafrio dros Leigh Halfpenny.

Mae'n debyg bod hynny oherwydd bod ychydig o bryder am Hadleigh Parkes, wnaeth dorri asgwrn yn ei law yng ngêm agoriadol Cymru.

Roedd Cymru'n fuddugol yn eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth ddydd Llun, a hynny o 43-14 yn erbyn Georgia.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Warren Gatland nad oedd unrhyw un yn haeddu cael eu tynnu o'r tîm

Dywedodd Gatland ei fod wedi ystyried dechrau Ross Moriarty yn y rheng-ôl, ond ei fod wedi penderfynu yn erbyn hynny yn y pendraw.

"Roedden ni'n teimlo ein bod eisiau rhoi cyfle arall i'r tîm yma," meddai.

"Roedden ni'n meddwl ein bod wedi chwarae'n reit dda yn yr hanner cyntaf yn erbyn Georgia felly roedden ni'n teimlo nad oedd hi'n deg tynnu unrhyw un allan."

Pedwar newid i Awstralia

Bydd asgellwr Awstralia, Reece Hodge yn colli'r gêm wedi iddo gael ei wahardd am dair wythnos yn dilyn tacl uchel ar Peceli Yato o Fiji yn eu gêm agoriadol nhw yn y gystadleuaeth.

Mae Awstralia wedi gwneud pedwar newid i'w tîm o'r fuddugoliaeth honno, gyda'r haneri Will Genia a Bernard Foley yn dychwelyd i'r tîm.

Dane Haylett-Petty fydd yn safle'r cefnwr yn lle Kurtley Beale, gydag Adam Ashley-Cooper yn dechrau yn lle Hodge.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Aaron Wainwright yn cadw ei le yn y rheng-ôl

Yn dilyn buddugoliaeth Uruguay dros Fiji ddydd Mercher mae nifer yn ei gweld yn anochel mai Cymru ac Awstralia fydd yn mynd trwodd o'r grŵp, ac mai'r gêm ddydd Sul fydd yn penderfynu pwy fydd yn gorffen ar y brig.

Bydd Cymru'n herio Awstralia ddydd Sul, gyda'r gic gyntaf yn Tokyo am 08:45 amser Cymru.

Tîm Cymru

Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (C), Aaron Wainwright, Josh Navidi, Justin Tipuric.

Eilyddion: Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Aaron Shingler, Ross Moriarty, Tomos Williams, Rhys Patchell, Owen Watkin.

Tîm Awstralia

Dane Haylett-Petty; Adam Ashley-Cooper, James O'Connor, Samu Kerevi, Marika Koroibete; Bernard Foley, Will Genia; Scott Sio, Tolu Latu, Allan Alaalatoa, Izack Rodda, Rory Arnold, David Pocock, Michael Hooper (C), Isi Naisarani.

Eilyddion: Jordan Uelese, James Slipper, Sekope Kepu, Adam Coleman, Lukhan Salakaia-Loto, Nic White, Matt To'omua, Kurtley Beale.