Adroddiad: Cartrefi gofal yn 'bron yn derbyn' plant yn dianc

  • Cyhoeddwyd
PlantFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae arolygwyr wedi codi pryderon ynglŷn â'r nifer o blant sy'n mynd ar goll o gartrefi gofal.

Nid yw'r adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnwys ystadegau, ond mae'n dweud mewn rhai achosion bod y bobl oedd yn gyfrifol am blant "bron iawn yn derbyn" y byddai rhai yn dianc o'r cartref.

Mae AGC hefyd yn dweud bod rhai plant yn symud o fewn system ofal dro ar ôl tro gan fod y trefniadau ar eu rhan wedi chwalu.

Er gwaethaf enghreifftiau da, dywedodd y prif arolygydd Gillian Baranski fod rhai plant yn cael eu methu "a hynny'n aml am nad oedd y rheini sydd mewn sefyllfa i sicrhau eu bod yn cael y gofal a'r cymorth roedd eu hangen arnynt yn cydweithio i wireddu hyn".

'Ychydig iawn o ymateb rhagweithiol'

Yn yr adolygiad cenedlaethol cyntaf o gartrefi gofal i blant, dywedodd AGC fod "bron pob cartref" yn darparu amgylchedd cynnes a chyffyrddus.

Ond ni chafodd rhai plant yr addysg yr oedd ganddyn nhw hawl iddi.

Mae 178 o gartrefi plant yng Nghymru, gyda lle i 774 o blant.

Ymwelodd arolygwyr â 56 ohonyn nhw er mwyn asesu ansawdd y gofal rhwng Gorffennaf 2018 a Mawrth 2019.

Mae Llywodraeth Cymru yn gosod targedau i leihau'r nifer o blant sy'n mynd i ofal. Roedd tua 6,400 o dan ofal awdurdodau lleol ar y cyfrif diwethaf.

Ond fe ddywedodd yr arolygiaeth y dylid ystyried gofal fel "dewis cadarnhaol i rai plant, yn hytrach na cham i'w gymryd pan nad oedd unrhyw ddewis arall".

Mae cynghorau'n ei chael hi'n anodd canfod llety addas i anghenion plant.

Dylai cartrefi gofal, cynghorau, y gwasanaeth iechyd a'r heddlu sicrhau bod plant yn cael gofal mor agos i'w cartref a phosibl, meddai'r adroddiad.

Mae'n ychwanegu: "Mae nifer y plant sy'n mynd ar goll o ofal mewn rhai ardaloedd o Gymru wedi cynyddu, ac mae nifer y plant sy'n wynebu risg o gam-fanteisio rhywiol wedi cynyddu hefyd.

"Roedd yn destun pryder gweld, o dan rhai amgylchiadau lle roedd plant yn dianc o'r cartref, fod y darparwyr, yr awdurdodau lleoli a'r timau diogelu lleol bron iawn yn derbyn hyn.

"Ychydig iawn o dystiolaeth a welsom i gefnogi ymateb rhagweithiol, gyda strategaethau amgen yn cael eu hystyried er mwyn diogelu plant."