Toriadau bws i arwain at 'ddiboblogi gwledig' yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
TacsiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn ystyried defnyddio tacsis yn lle bysiau ar gyfer gwasanaethau tawel

Fe allai toriadau i drafnidiaeth gyhoeddus yng Ngwynedd arwain at ddiboblogi mewn ardaloedd gwledig, yn ôl cynghorydd.

Dywedodd Gruff Williams, sy'n cynrychioli Nefyn, bod gwasanaethau bws yn hanfodol i bobl sydd ar gyflogau isel neu'n ddi-waith.

Mae'n bosib y bydd tacsis neu fysiau-mini yn cymryd lle bysiau ar wasanaethau sy'n cael llai o ddefnydd, wrth i'r cyngor adolygu'r sefyllfa.

Bydd cwmnïau'n cael eu gwahodd i wneud ceisiadau am wasanaethau ym mis Tachwedd, ond does dim disgwyl newid tan fis Ebrill 2020.

Gadael 'pentref gwyliau mawr'

Fe wnaeth arolwg o 2,000 o ddefnyddwyr bws ddangos bod y mwyafrif yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd un aelod cabinet bod hynny'n "agoriad llygad".

Mae'r cyngor yn ystyried defnyddio cerbydau llai yn lle bysiau a chynnig rhai gwasanaethau dan drefn ar-alw.

Clywodd cynghorwyr bod gan rai bysiau cyn lleied â dau neu dri teithiwr arnyn nhw.

Ond dywedodd Mr Williams y byddai toriadau sylweddol yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau, gan ei gymharu i'r sefyllfa yn Ucheldiroedd Yr Alban - pan gafodd miloedd o bobl eu gorfodi i adael yn y 18fed a 19eg ganrif.

"Unwaith i chi groesi trothwy penodol yna mae'r ysgolion, siopau a thafarndai yn dechrau cau," meddai.

"I gyd sydd ar ôl wedyn ydy pentref gwyliau mawr, yn gorfodi pawb i Borthmadog, Dolgellau a Phwllheli."

Fe wnaeth yr arolwg awgrymu bod 88% yn teimlo bod bysiau'n cynnig mwy o annibyniaeth a rhyddid, tra bod un wedi dweud na fyddai ei fywyd "werth byw" heb wasanaethau bws.

Cafodd y syniad o ofyn i deithwyr i archebu llefydd o flaen llaw groeso gan gynghorwyr, ond fe wnaeth rhai gwestiynu sut y byddai'n gweithio'n ymarferol.