Colofn Ken: 'Alun Wyn y gorau i chwarae dros Gymru erioed'

  • Cyhoeddwyd
ken

Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Georgia, Awstralia sydd nesaf i Gymru mewn gêm ddylai dod a dŵr i'r dannedd yn Tokyo dydd Sul.

Yr wythnos yma mae bachwr Cymru, Ken Owens yn trafod ei anaf, y gêm yn erbyn y Wallabies a'i argraffiadau o brifddinas Japan.

Pan ges i'r anaf 'na yn erbyn Georgia odd e'n dipyn o sioc rhaid gweud.

Nes i gael yn hunan mewn i safle eitha lletchwith ond unwaith da'th Dr Geoff mlaen a mynd drwy'r checks i gyd o'n i'n eitha' hyderus bod e ddim byd rhy ddifrifol.

O'n i bach yn dost am gwpwl o ddiwnode ond des i drwyddo ymarfer dydd Iau - cwpl o sesiynau dwys ac o'dd e'n ok. Ges i cwpl o texts gan bobl gartre' oedd yn poeni amdana i. Mae'n neis bod pobl yn becso - ond dyna beth yw rygbi ar ddiwedd y dydd, ti'n dod yn gyfarwydd ag anafiadau, a touch wood fyddai'n iawn.

Ffynhonnell y llun, Adam Pretty
Disgrifiad o’r llun,

Ken yn derbyn triniaeth ar y cae yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Georgia

Ymlaen i Tokyo!

Ni 'di cael croeso da yn Tokyo. Ni mewn gwesty eitha' mawr - ma' modd mynd ar goll ynddo fe! Sa'i 'di 'neud lot yn y ddinas ei hun eto - fi 'di bod yn gorffwys y droed yn barod at ddydd Sul.

Ond nes i ddala lan 'da ffrind ysgol nos Iau. Ni'n adnabod ein gilydd ers ysgol feithrin a 'nath e roi cwpl o awgrymiadau o lefydd i fynd a be' i neud fel y Tokyo Tower a'r Imperial Palace.

Un peth gyda trafeili a bod bant - ma' pawb yn meddwl bod e'n gret gweld y byd, a ni yn cael adege pan ni'n gweld tipyn - ond ma lot o hongan ambwyti a mynd i ymarfer 'fyd.

Alun Wyn Jones a'i record

Ma' Alun Wyn Jones yn teimlo'n browd iawn wy'n siŵr i osod record capiau newydd. I gael 130 o gapiau dros dy wlad, mae e'n sbesial iawn. Ma' fe 'di bod ar ben ei gêm ers dros ddegawd - i gadw'r motivation, y ffordd ma' fe'n ymarfer bob sesiwn, y ffordd ma' fe'n chwarae - ma' fe'n ysbrydoliaeth.

Ma fe'n un o'r goreuon - y gorau i chwarae dros Gymru erioed wy'n credu. Wy'n gwybod bydd e'n dweud taw jest cap arall yw e ond wy'n siŵr bod e'n meddwl lot. Ma' fe'n gawr o ddyn.

Ffynhonnell y llun, JUAN MABROMATA
Disgrifiad o’r llun,

Alun Wyn Jones yn ennill ei gap cyntaf yn erbyn yr Ariannin, Puerto Madryn, 11 Mehfin 2006. Yn y llun mae'n taclo'r prop Mario Ledesma, sydd bellach yn brif hyfforddwr ar yr Ariannin

Yr her nesa' - Awstralia

Ni'n ymarfer yn dda nawr cyn gêm Awstralia! Nath y fuddugoliaeth yn yr hydref roi hwb enfawr i'r garfan. Ni'n gwybod pa mor bwysig yw dydd Sul i 'neud yn siŵr byddwn ni'n symud 'mlaen yn y twrnamaint a ni'n edrych 'mlaen at yr her.

'Sdim anafiadau - ma' pawb wedi ymarfer - sy'n grêt. Ni'n gwybod y threat sy 'da nhw yn ardal y dacl a ma' hi'n gêm enfawr.

Colli Cory

O'dd hi'n siom enfawr i Cory bod e ddim 'di dod dros yr anaf i'w goes. O'dd e'n chwaraewr enfawr o ran y garfan - yn enwedig ei arweinyddiaeth e - a o'dd e jest yn anlwcus iawn bod e ddim 'di gwella.

Mae Bradley (Davies) wedi dod mas nawr. Pan gyrhaeddon ni Tokyo, y bore cynta' es i lawr i bwyso a'r person cynta' glywes i yn y 'stafell frecwast o'dd Bradley - mae'n gymeriad mawr!

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Bradley Davies o'r Gweilch, sydd eisioes efo 65 o gapiau, yw'r chwaraewr sydd wedi ei alw i garfan Cymru yn dilyn anaf Cory Hill

Arbrofi â'r bwyd!

Aethon ni mas am Korean bbq y noson o'r blaen lle ti'n coginio bwyd dy hunan ar grill ar ganol y bwrdd. Ti'n pigo'r cig ti moyn a wel... crack on! Odd pawb yn eitha' ceidwadol yn becso am goginio'r pysgod a'r calamari rhag ofn bod e ddim cweit 'di coginio yn iawn.

Nath rhai o'r hyfforddwyr gael prawns mawr ond o'dd y chwaraewyr yn cadw at y stêc a'r porc... rhag ofn! Sneb 'di marw - so ni 'di neud jobyn da o hwnna fi'n credu!

Reit, ymlaen at Awstralia - croesi bysedd! Tan wythnos nesa,

Ken

Hefyd o ddiddordeb