Colofn Ken: Y wasg, Georgia a thoiledau Japan

  • Cyhoeddwyd
ken

Yn ei ail golofn ar gyfer BBC Cymru Fyw mae bachwr y Scarlets, Ken Owens, yn trafod digwyddiadau diweddar o fewn y garfan a beth mae'n ei feddwl o ddiwylliant Japan.

Mae 'di bod yn ddyddiau caled gyda be' sy' 'di digwydd - mae 'di bod yn sioc enfawr.

'Wy'n teimlo trueni dros Rob (Howley) achos popeth mae e 'di neud i fi yn bersonol a 'wy just moyn dweud diolch iddo fe am hwnna. I Gwpan y Byd orffen iddo fe fel hyn mae e'n drist iawn. Mae e 'di cyflawni gymaint yn y gêm a 'wy jest yn gobeithio fydd popeth yn gweithio mas iddo fe.

O ran y stori, nes i ffendio mas rhyw chwech awr cyn iddo fe gyrraedd y wasg. Y peth mwya' pwysig wedyn o'dd cael Rob gartre yn saff cyn i'r papurau ffeindio mas.

Un o gryfderau mwya' Rob o'dd bod pawb yn gwbod ei rôl a o'dd hi'n glir be' o' ni'n cesio 'neud. Mae 'di bod lot caletach i'r olwyr na'r blaenwyr ers iddo fe fynd. John Davies a Dan Biggar sydd wedi cymryd yr awennau fynna.

Mae Stephen Jones yma nawr. Mae e'n berson positif iawn a ma' cael rhywun mor brofiadol yma yn grêt. Fi'n gwbod neith e roi popeth mewn i neud yn siŵr bod y Cwpan Byd 'ma yn llwyddiannus. Ma' fe'n ddyn grêt 'fyd.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-faswr Cymru, Stephen Jones fydd yn cymryd lle Rob Howley fel hyfforddwr ymosod Cymru yn ystod Cwpan y Byd

Fi'n credu o'dd e bron yn syth ar yr awyren ar ôl cael yr alwad gan Gats - mae e jest yn becso am faint o amser bydd e'n cymryd i ddod dros y jet lag! Ers cyrraedd mae e 'di bod yn dal lan 'da'r chwaraewyr a'r hyfforddwyr a neud yn siŵr bod e'n gwbod beth yw'r plan ar gyfer y gêm gynta'. Ma' fe'n berson proffesiynol iawn - 'neith e ddim cymryd yn hir iddo fe wbod be' ni'n trio 'neud fan hyn.

'Croeso fantastic'

Ni just yn edrych 'mlaen at y gêm yn erbyn Georgia nawr. Fi'n cofio tua'r amser 'ma llynedd yng Ngwesty'r Fro - tua 60 o chwaraewyr a Gats yn siarad am y flwyddyn o'dd i ddod a nawr bod e 'ma, mae'n teimlo fel ddoe.

'Odd y croeso gaethon ni yn Kitakyushu yn fantastic. 'Odd mwy o bobl 'na, na sy' mewn gêm Scarlets fel arfer! I rai o'r bois na'r crowd mwya' i nhw 'ware o flaen! O'dd cael 15,000 o bobl 'na yn grêt, 'di dysgu Calon Lân a'r anthem - sy' ddim yn hawdd.

Ffynhonnell y llun, ADRIAN DENNIS
Disgrifiad o’r llun,

Un o gyd-chwaraewyr Ken gyda'r Scarlets, Hadleigh Parkes, yn derbyn croeso cynnes yn Ysgol Sokakan yn ninas Toyota, 20 Medi

'Odd jest gweld y plant â gwên ar eu hwynebau, lot ddim wedi gweld pêl rygbi o'r blaen a dyna ma' Cwpan y Byd amdano - mynd â rygbi i gynulleidfa newydd. Mae e jest yn dangos y gwaith caled ma'r Undeb 'di 'neud 'ma dros y ddwy flynedd ddiwetha'.

Rhannu stafelloedd

Fi 'di bod yn olreit o ran stafell - o'n i'n rhannu 'da Jake Ball yn Tokyo - ni'n 'nabod ein gilydd yn dda. 'Wy di bod ar ben fy hunan yn Kitakyushu a fan hyn yn Toyota. Sai'n gwbod a ydy'r bois 'di bod yn siarad - "Leave him on his own" neu os ma' nhw'n dangos bach o barch am unwaith. Ond ma' fe wedi gweithio mas yn dda i fi!

Arferion lleol

Ma'r tai bach yn ddiddorol 'ma - sai 'di defnyddio'r settings i gyd 'to - 'wy ofn!

Y peth mwya' 'wy 'di sylwi yw pa mor barchus a chroesawgar ma' pawb - fi 'di trio dysgu rhai geiriau a ffeindio mas bo' fi'n iwso nhw yn y context anghywir. 'Wy di bod yn gweud 'arrigato' - sef diolch - ond 'wy'n credu bod angen dweud rhwbeth ar ei ôl e. Wy'n bowo lot i 'neud lan am bethe!

Disgrifiad,

Croeso i dim Cymru yn Japan

A chyn i fi fynd, un peth diddorol arall, gartre os chi mewn spa neu sauna - ma' rhaid i chi wisgo siorts neu budgy smugglers ond fan hyn mae'n amharchus i fod â dillad arno! Mae 'di bod yn sioc i fi a rhai o'r bois eraill i fynd mewn 'na yn borcyn - ma'r staff yn dod mewn a gweiddi "shorts off" os na. Ydy, mae'n ddiddorol!

Ar y nodyn 'na wy off - tan tro nesa'.

Ken

Hefyd o ddiddordeb: