Canolfan £10m i ddelio ag iechyd meddwl pobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
Young peopleFfynhonnell y llun, Bim/Getty Images

Gallai Cymru arwain y byd yn yr ymdrechion i ddeall yn well beth sy'n achosi iselder a gofid ymhlith pobl ifanc.

Dyna farn arbenigwyr wrth i ganolfan ymchwil newydd gwerth £10m gael ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd.

Drwy gydweithio ag ymchwilwyr yn Abertawe, yn ogystal ag ysgolion a'r gwasanaeth iechyd - y gobaith yw y gall Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobol Ifanc daflu goleuni ar y problemau cynyddol sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc.

'Ddim yn cael yr help iawn'

Mae un person ifanc ym mhob wyth wedi cael cyflwr sy'n achosi iselder neu ofid - cynnydd o 50% dros gyfnod o ugain mlynedd.

Ond dyw'r mwyafrif o'r achosion ddim yn cael eu hadnabod - sy'n golygu bod llawer ddim yn cael yr help sydd ei angen.

Mae yna ansicrwydd hefyd ynglyn â'r achosion, e.e. beth yw rôl gwefannau cymdeithasol, ydi plant erbyn hyn yn wynebu mwy o bwysau i lwyddo mewn arholiadau a beth yw effaith iselder rhieni ar blant.

Dyma rai o'r cwestiynau y bydd yr ymchwilwyr, drwy gydweithio â phobl ifanc, yn ceisio eu hateb.

Mae sefydliad elusennol Wolfson yn buddsoddi £10m dros y pum mlynedd nesaf yn y ganolfan er mwyn dod ag arbenigwyr o wahanol feysydd ynghyd.

Wrth groesawu'r buddsoddiad dywedodd yr Athro Fran Rice, a fydd yn cydgyfarwyddo'r ganolfan newydd, y bydd y ganolfan yn "taflu goleuni pwysig" ar iechyd meddwl pobl ifanc.

"Mae'n werthfawrogiad o bwysigrwydd y maes ac o anferthedd ac arwyddocâd y broblem," meddai.

Bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar bum maes ymchwil:

  • Dilyn plant dros gyfnod hir i ddeall yn well sut mae pryder ac iselder yn datblygu;

  • ystyried rôl ffactorau genetig ac amgylcheddol ar bryder ac iselder ymysg pobl ifanc;

  • datblygu gwell gwasnaethau a thriniaethau i helpu pobl ifanc i ymdopi'n well lle mae rhiant yn dioddef o iselder.

  • edrych ar rôl ysgolion yn hyrwyddo iechyd a chasglu data o holl ysgolion uwchradd Cymru;

  • cydweithio â Phrifysgol Abertawe i ddefnyddio cofnodion meddygol dienw i ddeall effaith problemau iechyd meddwl tymor hir.

'24/7'

Yn ôl y seiciatrydd Rhys Bevan Jones, un o'r tîm a wnaeth gais i sefydlu'r ganolfan - y nod yw deall beth sy'n achosi'r problemau ond hefyd ystyried sut mae gwella y gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd ar gael.

Dywedodd: "Nid ond edrych ar yr achosion a'r pethau gwyddonol [sydd ei angen] ond hefyd datblygu pethau all helpu pobl ifanc - adnoddau yn yr ysgol, er enghraifft, ac yn y clinig a'r bwriad yw trio helpu yn gynnar cyn i bethau fynd yn rhy ddifrifol."

Mae'n dweud y bydd cyfle i bobl ifanc hefyd gynnig syniadau o ran prosiectau ymchwil, a rhoi cyngor ar sut y dylid datblygu gwasanaethau o ganlyniad i'r ymchwil.

Ychwanegodd: "Mae'n beth mawr mewn byd ymchwil dyddiau yma bod pobl ifanc, nid yn unig yn cymryd rhan yn yr ymchwil, ond hefyd yn siarad am sut y dylid 'neud yr ymchwil.

"O'n nhw yn rhan o'r cais ar gyfer yr arian yma.

"Bydd yna fwrdd, trwy gydol yr amser yn y ganolfan, a fydd yn dweud wrthom beth ry'n yn ei 'neud yn iawn a shwt ddylen ni wneud pethe.

"Mae cymaint o bethau wedi datblygu dros y blynyddoedd gan gynnwys y we.

"Mae hwn wedi bod o fudd i lot o bobl ond mae hefyd wedi dod â phethau fel bwlio, cyber bullying - hefyd problemau gyda shwt y'ch chi yn dod drosodd ar y gwefannau cymdeithasol ac mae wedi codi disgwyliadau yn yr ysgol ac arholiadau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y disgyblion yma o un ysgol uwchradd yng Nghaerdydd bod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu creu mwy o bwysau

Mae rhai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, yng Nghaerdydd yn ategu bod y cyfryngau cymdeithasol yn creu pwysau.

Dywedodd Olwen, sy'n 13 oed: "Mae disgwyl i chi deimlo ac ymddwyn mewn ffordd benodol - cymharu eich hun i'r sêr neu jyst i'r grwpiau mwyaf poblogaidd yn yr ysgol. Mae'n anodd os nad ydych yn cael eich cynnwys."

Ychwanegodd Gwion, 15 oed: "Un o'r prif bethau yw pwysau arholiadau - mae e'n enfawr. Chi wastad yn cymharu eich hunan i bobl sydd â'r bywyd neu'r meddylfryd perffaith.

"Cyn dyddiau ffôns, petaech yn cael dadl neu'n cael eich bwlio mi fyddai'n stopio ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Ond nawr mae e 24/7 a chi'n fwy bregus."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Glenn Page o Mind Cymru mae'r prosiect yn hynod bwysig

Dywedodd Glenn Page, Uwch Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru: "Ni'n croesawu y prosiect hwn - mae'n rili pwysig gweld sut mae pobl ifanc yn gallu cael cefnogaeth yn yr ysgolion... ni wedi cynnal arolwg ymhlith miloedd o bobl ifanc - dywed un o bob pump eu bod wedi cael cefnogaeth yn yr ysgol ond dim ond hanner rheina sy'n dweud bod hynna wedi bod o help.

"Mas o'r ysgolion mae'n rili anodd cael y gefnogaeth - mae'n bwysig iawn fod pobl yn gallu cael cefnogaeth."

Ychwanegodd Rhys Bevan Jones: "Trwy roi cymaint o sylw i bobl ifanc, o'r arddegau i'r ugeiniau cynnar, y gobaith yw y bydd Cymru yn gallu arwain y byd mewn maes clinigol a fydd yn helpu pobl ifanc ag iechyd meddwl."