Ann Clwyd ddim am sefyll yn yr etholiad cyffredinol

  • Cyhoeddwyd
Ann ClwydFfynhonnell y llun, UK Parliament
Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi bod "yn fraint i gynrychioli pobl Cwm Cynon" am 35 o flynyddoedd, medd Ann Clwyd

Mae Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, Ann Clwyd wedi cadarnhau na fydd hi'n sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Yn 82 oed, Ms Clwyd ydy'r aelod benywaidd hynaf yn Nhŷ'r Cyffredin ac mae hi wedi cynrychioli'r etholaeth am 35 o flynyddoedd.

Dywedodd: "Mae wedi bod yn fraint i gynrychioli pobl Cwm Cynon am gyfnod mor hir.

"Byddaf yn parhau i frwydro dros y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf - pryd bynnag fydd hwnnw."

Fe wnaeth ei chyhoeddiad mewn cyfarfod yn yr etholaeth nos Wener.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ann Clwyd eihethol i gynrychioli Cwm Cynon yn 1984

Yn gyn-newyddiadurwr gyda'r BBC, roedd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Orllewin a Chanolbarth Cymru cyn cael ei hethol fel AS Cwm Cynon yn 1984 mewn is-etholiad.

Cafodd ei phenodi i sawl swydd dros y blynyddoedd, gan gynnwys llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur, llefarydd datblygu rhyngwladol a chadeirydd pwyllgor ASau Llafur yn San Steffan.

Yn 1994, fe wnaeth hi gynnal protest danddaearol yng Nglofa'r Tŵr, yn Hirwaun, mewn gwrthwynebiad i benderfyniad British Coal i gau'r safle.

Cafodd y glöwyr hawl i ailagor y lofa eu hunain y flwyddyn ganlynol, gan fuddsoddi eu taliadau diswyddiad, ac wnaethon nhw lwyddo i gadw'r safle i fynd tan 2008.

Disgrifiad o’r llun,

Ann Clwyd ar ddiwedd ei phrotest i achub Glofa'r Tŵr

Cafodd ei dewis gan Tony Blair i fod yn gennad arbennig hawliau dynol i Irac, gan ennyn canmoliaeth a chefnogaeth arbennig gan y Cwrdiaid.

Wedi marwolaeth ei gŵr, Owen Roberts yn 2012 fe ymgyrchodd i wella safonau gofal o fewn y GIG.

Yn 2014, fe gyhoeddodd na fyddai'n sefyll fel AS yn etholiad cyffredinol 2015, ond fe newidiodd ei meddwl "wedi sawl cais gan bleidleiswyr Llafur yng Nghwm Cynon" yn sgil ffrae dros lunio rhestrau o ymgeiswyr benywaidd yn unig.

Cafodd ei hailethol yn yr etholiad hwnnw ac fe gynyddodd ei mwyafrif yn etholiad cyffredinol 2017.