Y Gynghrair Genedlaethol: Solihull Moors 3-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd Wrecsam o 3-1 yn erbyn Solihull Moors yn y Gynghrair Genedlaethol nos Fawrth.
Sgoriodd Jamey Osborne ddwywaith i'r tîm cartref, naill ochr i gôl gan Jamie Reckford.
Bobby Grant rwydodd i'r Dreigiau, ond dim ond gôl gysur oedd hi yn y diwedd.
Roedd amheuaeth y byddai'r gêm yn cael ei chwarae oherwydd y tywydd garw, ac mi fyddai Wrecsam wedi bod yn falch o ohiriad o wybod y canlyniad.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros tu allan i safleoedd y cwymp ar wahaniaeth goliau'n unig.
Hon oedd ail gêm Brian Flynn fel rheolwr dros dro yn dilyn penderfyniad y clwb i ddiswyddo Bryan Hughes fel rheolwr yr wythnos diwethaf.
Fe lwyddodd Wrecsam i drechu Ebbsfleet 1-0 ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2019