Yr artist sy' am ledu'r neges am fyw'n wyrdd
- Cyhoeddwyd
Mae Efa Lois, yr arlunydd o Aberystwyth, wedi troi ei sylw at faterion amgylcheddol yn ei gwaith celf diweddar. A hithau'n hyfforddi i fod yn bensaer ym Mhrifysgol yn Lerpwl ac yn arbenigo mewn adeiladau eco-gyfeillgar, yma mae hi'n egluro pam ei bod hi wedi cychwyn lledu'r neges am fyw'n wyrdd ar y cyfryngau cymdeithasol.
A oeddech chi'n gwybod, yn ôl elusen Oxfam, bod ôl troed carbon yr holl ddillad newydd sy'n cael eu prynu yn y Deyrnas Unedig bob munud yn fwy na'r hyn fyddai'n cael ei allyru gan gar yn gyrru o amgylch y byd chwe gwaith?
Yn ystod ymgyrch yr elusen honno ym mis Medi, sef #secondhandseptember (ymgyrch yn annog pobl i beidio â phrynu dillad newydd ym mis Medi), fe wnes i feddwl tipyn am sut rydyn ni o dan bwysau i siopa, ac i siopa am ddillad o ansawdd isel wedi eu cynhyrchu o dan amgylchiadau gwael.
Gan nad yw'r dillad hyn yn para'n hir, mae'n creu cylch dieflig ar gyfer y ddaear, ac ar gyfer eich waled.
Prŷn Rhad, Prŷn Eilwaith
Mae prynu dillad o ansawdd uwch yn golygu fydd yr eitem yna'n treulio amser hir gyda chi, neu bydd yr eitem yn gallu byw bywyd arall gyda rhywun arall, wedi iddo adael eich cwpwrdd dillad chi.
Y newid mwyaf dwi wedi ei wneud yw i ddechrau prynu yr hyn sydd angen arnaf yn ail-law. Mae pob dim sydd angen arnom ni eisoes ar y ddaear, ac mae'r syniad fod angen taflu'r pethe defnyddadwy yma i gladdfa sbwriel, er mwyn defnyddio adnoddau prin y byd i gynhyrchu rhywbeth newydd sydd bron yr un peth, yn codi ofn arna'i.
Mae dyfodol y byd yn ein dwylo ni
Gallwn ni oll wneud ychydig yn fwy i helpu'r blaned, boed hynny'n ceisio prynu'r hyn sydd ei angen arnon ni'n ail-law, trwy brynu cynnyrch lleol, neu trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu gerdded pan fedrwn ni.
Rydym ni'n effeithio ar y byd hwn, boed yn wleidyddol, yn amgylcheddol, neu drwy geisio gwneud pob dydd ychydig yn well i bobl eraill. Mae'r ffordd rydyn ni'n byw yn mygu'r blaned, ac mae angen i'r ffordd rydym ni'n byw newid.
Does dim Byd arall
Mae'n frawychus sylweddoli cymaint o wastraff mae'r ffordd rydyn ni'n byw yn ei gynhyrchu - mae miliwn o boteli plastig yn cael eu prynu o amgylch y byd bob munud.
Dwi'n credu bod angen i ni newid ein hymddygiad o ran y ffordd rydyn ni'n trin y byd, i brynu cymaint o fwyd ac y gallwn ni heb blastig, a phrynu cynnyrch tymhorol a lleol pan fo'n bosib.
Newid ymddygiad, nid newid hinsawdd
Dwi'n credu'n gryf y gallwn ni oll wneud pethau bach er mwyn helpu'r blaned - er enghraifft cerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle gyrru i bobman, sicrhau fod gennym ni gwpan coffi neu fotel ddŵr ailddefnyddadwy, a phrynu ein ffrwythau a llysiau yn ddi-blastig pan fo'n bosib.
Gallwn ni brynu dillad, a'r hyn sydd ei angen arnom ni, yn ail-law, a gwneud ymdrech i sichrau nad ydym ni'n gollwng sbwriel unrhywle, unrhywbryd.
Wedi'r cyfan, does dim Byd arall.
Hefyd o ddiddordeb: