Gweu 2,020 o gardiganau i ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd
![Eileen Johnson knitting in the cafe window](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13FF6/production/_109001918_img_0556.jpg)
Mae Eileen Johnson yn gweu yn ffenest y caffi ddwywaith yr wythnos
Mae menyw o Aberteifi am geisio gweu 2,020 o gardiganau mewn blwyddyn er mwyn eu rhoi i ffoaduriaid.
Dywedodd Eileen Johnson, 79 oed, ei bod wedi cael y syniad o gardigan anferth gafodd ei gweu i ddathlu pen-blwydd y dref yn 900 oed yn 2011.
Mae hi'n treulio tipyn o amser yn gweu mewn caffi yn y dref, ac mae'n dysgu rhai plant sy'n galw i mewn sut i weu hefyd.
Eisoes mae dros 100 o eitemau wedi cael eu gweu gan ei thîm o wirfoddolwyr, a'r nod yw cwblhau 2,020 o gardiganau erbyn Medi 2020.
"Cefais fy ngeni yn ystod y rhyfel ac fe wnaeth fy mam ddysgu fi sut i weu mewn lloches rhag bomio pan oeddwn i'n dair oed," meddai.
![Eileen Johnson](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A8B1/production/_108958134_eenygkwwkasljbx.jpg)
Mae Eileen Johnson wedi derbyn gwlad a gweill i gynorthwyo gyda'i her
"Ar ôl byw drwy'r rhyfel, mae gen i syniad sut maen nhw [plant sy'n ffoaduriaid] yn mynd drwyddo.
"Mae'r gweill gen i byth ers hynny. Lle bynnag ydw i, beth bynnag dwi'n gwneud, mae'r gweill bob amser gen i."
Dywedodd fod yr ymateb i'r her wedi bod yn "ardderchog".
"Allwn i ddim bod wedi gofyn mwy," ychwanegodd. "Mae pobl Aberteifi yn dod i mewn gyda gwlân a gweill. Daeth rhywun i mewn gyda 17 o eitemau."
Er mwyn cyrraedd y nod erbyn Medi 2020, mae angen gweu cyfartaledd o 39 o gardiganau bob wythnos.
![cardiganau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A3B6/production/_109001914_img_0548.jpg)
Mae siwmperi a chardiganau wedi bod yn llifo i mewn ar gyfer yr her
Mae Debbie Mossman, sy'n rhedeg y caffi a gweithgareddau cymunedol, wedi bod ynghlwm ag elusen yn Calais sy'n gweithio gyda ffoaduriaid.
Dywedodd: "Bydd e'n gwneud gwahaniaeth mawr... nid gymaint yn Calais ond ar draws Ewrop lle mae llawer o blant yn byw dan amodau ofnadwy, i gael siwmper newydd wedi ei greu iddyn nhw.
"Daeth Eileen i mewn gyda'r syniad o weu cardiganau oherwydd ein bod ni wedi cael cardigan anferth wedi ei chreu yma.
"Mae gennym weithgareddau cymunedol yma sy'n ceisio annog pobl ifanc i ymuno gyda ni mewn sesiynau gweu gwirfoddol.
"Drwy weithio gyda'n gilydd, roedden ni'n meddwl y gallem ni gael lot o'r gymuned i fod yn rhan o greu'r dillad yma i'r ffoaduriaid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018