Cyhoeddi gwobrau arbennig BAFTA Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gwobrau Bafta 2019Ffynhonnell y llun, Bafta Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Bethan Jones a Lynwen Brennan yn derbyn eu gwobrau mewn seremoni yn Neuadd Dewi Sant ar 13 Hydref

Bydd dau o wobrau arbennig Bafta Cymru eleni yn cael eu cyflwyno i ddwy ddynes am eu cyfraniad i fyd ffilm a theledu.

Bethan Jones fydd yn derbyn Gwobr Siân Phillips am gyfraniad at deledu a ffilm ryngwladol, tra bydd Lynwen Brennan yn cael ei anrhydeddu am gyfraniad rhagorol i'r diwydiant.

Cynhelir seremoni wobrwyo Bafta Cymru yng Nghaerdydd ar 13 Hydref.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: "Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn dewis yr unigolion hynny sydd ar frig eu gyrfaoedd rhyngwladol ac sy'n llysgenhadon gwych i Gymru a'r diwydiannau creadigol i dderbyn ein Gwobrau Arbennig. "

"Unwaith eto eleni, rydym yn dathlu gyrfaoedd disglair a chyfraniadau dau ymarferydd benywaidd sy'n uchel eu parch ac yn ddylanwadol iawn yn eu meysydd."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan BAFTA Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan BAFTA Cymru

Ar hyn o bryd, mae Bethan Jones yn Gyfarwyddwr Creadigol Gweithredol yn Playground, lle mae'n gweithio ar gyfresi gan gynnwys Dangerous Liaisons ar gyfer Lionsgate/Starz

Ymhlith ei gwaith mwyaf diweddar mae Les Miserables, Sherlock, Aberfan: The Green Hollow, Atlantis a Mistresses.

Cyn hynny fe fu hi'n Gynhyrchydd y Gyfres ar opera sebon y BBC, Pobol y Cwm.

Hi fydd 15fed derbynnydd Gwobr Siân Phillips

Dywedodd Bethan: "Rydw i wedi edmygu Siân Phillips ar hyd fy oes, ac mae'n fraint enfawr cael fy nghynnwys yn y rhestr glodwiw o dderbynyddion y wobr hon sy'n dwyn ei henw."

Ffynhonnell y llun, Polly Thomas/BAFTA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Huw Stephens fydd yn cyflwyno'r seremoni, ac mae ei ffilm Anorac ar y rhestr fer mewn chwe chategori gwahanol.

Cafodd Lynwen Brennan ei geni yn Sir Benfro a hi ydy Rheolwr Cyffredinol ac Is-lywydd Gweithredol Lucasfilm, lle mae'n goruchwylio'r holl weithrediadau busnes ar gyfer Lucasfilm, Industrial Light & Magic a Skywalker Sound.

Ymunodd Lynwen â Lucasfilm ym 1999 fel arweinydd Maes Technegol. Mae hi wedi goruchwylio gwaith ar ffilmiau megis gan gynnwys Black Panther, Bird Box, Jurassic World, Rogue One, The Revenant a Star Wars : The Last Jedi ymysg eraill.

Dywedodd Ms Brennan: "Mae'n anrhydedd mawr a braidd yn swreal i gael gwobr mor fawreddog gan BAFTA Cymru."

"Rwy'n falch iawn o fod yn Gymraes, a doeddwn i byth wedi dychmygu y byddwn yn cael fy anrhydeddu yn y fath fodd gan y diwydiant a'r wlad sydd mor agos at fy nghalon."

Ffynhonnell y llun, Polly Thomas/BAFTA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elin Fflur, sydd wedi cael ei henwebu ar gyfer BAFTA am rhaglen ddogfen, yn y parti lawnsio nos Fercher

Cafodd enwau'r ddwy a fydd yn derbyn y gwobrau arbennig eleni eu cyhoeddi mewn parti nos Iau ar gyfer y rhai sydd wedi'i henwebu am wobrau Bafta Cymru.

Bydd y gwobrau'n cael eu dosbarthu mewn seremoni yn Neuadd Dewi Sant ar ddydd Sul 13 Hydref, lle bydd y talent orau mewn ystod eang o gategorïau hefyd yn cael eu hanrhydeddu.

Ymhlith y rhai sydd wedi eu henwebu eleni mae Syr Anthony Hopkins a'r actor Doctor Who, Jodie Whittaker, tra bod Michael Sheen, Matthew Rhys a Sian Gibson hefyd yn cystadlu am wobrau.

Mae'r dramodwyr Andrew Davies a Russell T Davies hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Huw Stephens fydd yn cyflwyno'r seremoni, ac mae ei ffilm Anorac ar y rhestr fer mewn chwe chategori gwahanol.