BAFTA Cymru 2018: Gwobrwyo goreuon byd ffilm a theledu

  • Cyhoeddwyd
Bafta Cymru gong

Mewn seremoni llawn rhwysg yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd cafodd goreuon y byd ffilm a theledu eu gwobrwyo yn seremoni BAFTA Cymru 2018.

Jack Rowan a enillodd y wobr am yr actor gorau am ei bortread o Sam yn Born to Kill. Ymhlith eraill a oedd wedi cael eu henwebu yn y categori roedd Ioan Gruffudd am ei ran fel Andrew Earlham yn Liar.

Disgrifiad o’r llun,

Ioan Gruffudd yn cyrraedd y seremoni yng Nghaerdydd nos Sul

Enillwyd y wobr am yr actores orau gan Eve Myles am ei phortread o Faith Howells yn Keeping Faith/Un Bore Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Un Bore Mercher chwe enwebiad - Eve Myles o'r gyfres a enillodd y wobr am yr actores orau

Yng nghategori'r cyflwynydd gorau cafodd y gyflwynwraig Beti George ei henwebu am ei rhan yn y rhaglen Beti George: Colli David. Enillydd y categori oedd Gareth Thomas yn Alfie v Homophobia: Hate in the Beautiful Game.

Cic a enillodd y rhaglen blant orau, Salon y rhaglen adloniant orau a Bang a enillodd y ddrama deledu orau.

Ar ddiwedd y noson dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: "Mae heno wedi bod yn ddathliad gwych, bywiog a chyffrous o'r rhagoriaeth yn y diwydiant rydym yn bodoli i'w chydnabod.

"Gobeithiwn fod y rhai a ddaeth i'r seremoni ac a wyliodd y ffrwd fyw ledled y byd yn gwerthfawrogi'r unigolion dawnus sydd naill ai'n gweithio yng Nghymru neu'n dod o Gymru ac yn gweithio ar gynyrchiadau ar draws y Deyrnas Unedig."

Enillwyr y noson:

CYFLWYNYDD

GARETH 'ALFIE' THOMAS yn Alfie v Homophobia: Hate in the Beautiful Game

TLWS SIÂN PHILLIPS

LINDY HEMMING - dylunydd gwisgoedd. Mae ei gwaith mwyaf diweddar yn cynnwys Wonder Woman a Wonder Woman 1984, ffilmiau Paddington a Casino Royale.

GWOBR CYFRANIAD EITHRIADOL I DELEDU

MAVIS NICHOLSON - daw Mavis o Gastell-nedd yn wreiddiol ac mae'n adnabyddus fel cyflwynydd sioe sgwrsio benywaidd cyntaf y DU. Mae ei chyfweliad â'r canwr David Bowie ym mis Chwefror 1979 yn cael ei ystyried yn o'r cyfweliadau gorau â'r canwr.

ACTOR

JACK ROWAN fel Sam yn Born to Kill

ACTORES

EVE MYLES fel Faith Howells yn Keeping Faith/Un Bore Mercher

RHAGLEN BLANT

CIC

DYLUNIO GWISGOEDD

SIAN JENKINS ar gyfer Reqiuem

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL

LAURA MARTIN-ROBINSON a CLAIRE HILL ar gyfer Richard and Jaco: Life with Autism

CYFARWYDDWR: FFUGLEN

EUROS LYN ar gyfer Kiri

GOLYGU

DAFYDD HUNT am ei waith yn Bang

RHAGLEN ADLONIANT

SALON

CYFRES FFEITHIOL

SURGEONS: AT THE EDGE OF LIFE

GÊM

LATE SHIFT

NEWYDDION A MATERION CYFOES

WEEK IN WEEK OUT

CERDDORIAETH WREIDDIOL

AMY WADGE / LAURENCE LOVE GREED ar gyfer Keeping Faith/Un Bore Mercher

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO

STUART BIDDLECOMBE ar gyfer Craith

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL

HUW TALFRYN WALTERS ar gyfer Frank Lloyd Wright: The Man Who Built America

FFILM FER

HELFA'R HELI

RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL

RICHARD AND JACO: LIFE WITH AUTISM

SAIN

JOHN MARKHAM ar gyfer Band Cymru 2018

DRAMA DELEDU

BANG

AWDUR

MATTHEW HALL ar gyfer Keeping Faith/Un Bore Mercher

Yn ystod y seremoni roedd yna funudau o dristwch wrth i'r byd teledu gofio am y rhai a gollwyd yn ystod y flwyddyn - yn eu plith Terry Dyddgen-Jones, Iola Gregory, Meic Povey, Trefor Selway a Gareth Price.

Cafodd y seremoni ei chyflwyno gan Huw Stephens.