Wrecsam yn ail-benodi Dean Keates fel rheolwr
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Dean Keates ennill 25 o'i 70 gêm fel rheolwr Wrecsam
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi ail-benodi Dean Keates fel rheolwr ar gytundeb dwy flynedd.
Bu Keates yn rheolwr ar y clwb o Hydref 2016 cyn gadael ym mis Mawrth 2018 i gymryd swydd Walsall.
Mae'n cymryd yr awenau oddi wrth Brian Flynn, sydd wedi bod wrth y llyw dros dro yn dilyn penderfyniad y clwb i ddiswyddo Bryan Hughes.
Mae Keates - a gollodd ei swydd gyda Walsall ym mis Ebrill eleni - wedi arwyddo cytundeb tan haf 2021.
Mae Flynn wedi gadael y clwb, gydag Andy Davies yn dychwelyd fel is-reolwr.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd y clwb eu bod nhw wedi cyfweld â phum person, ond mai Keates "oedd y person gorau i'r swydd o bell ffordd".
Fe chwaraeodd Keates dros 160 o gemau i'r Dreigiau fel capten, cyn ymddeol yn 2015.
Ef oedd y capten pan enillodd Wrecsam Tlws FA Lloegr yn 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2018