'Mwy i'w wneud' i wella gwasanaeth mamolaeth Cwm Taf Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae "gwaith sylweddol" eto i'w gyflawni cyn bod modd dynodi gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg fel rhai diogel ac effeithiol.
Dyna gasgliad panel annibynnol gafodd ei benodi i oruchwylio gwelliannau yn dilyn adolygiad damniol yn gynharach eleni ddaeth o hyd i fethiannau difrifol.
Mae'r panel hefyd wedi dweud y bydd yn ystyried dros 100 o achosion ychwanegol, rhwng 2016 a 2018, lle mae'n credu bod gwersi i'w dysgu ynglŷn â gofal mamau a babanod.
Cafodd 43 o achosion eu hystyried gan yr adolygiad gwreiddiol.
Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y bwrdd iechyd yn dechrau gwella'r sefyllfa, yn dilyn dechrau "araf ac ansicr".
Fe wnaeth adolygiad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill nodi rhestr o drafferthion yng ngwasanaethau mamolaeth ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Cafodd y gwasanaeth ei roi dan fesurau arbennig yn dilyn dwsinau o achosion difrifol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
Clywodd yr adolygiad fod menywod wedi cael "profiadau erchyll a gofal gwael" yn y ddau ysbyty.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad nad oedd pryderon a godwyd gan fenywod wedi eu hystyried o ddifrif a bod "ychydig iawn o dystiolaeth o arweiniad clinigol effeithiol ar unrhyw lefel".
'Bylchau sylweddol'
Yn ei adroddiad cyntaf mae'r panel yn dweud er bod gwelliannau yn dechrau cael eu cyflwyno, mae'r broses hyd yn hyn wedi bod yn "araf ac ansicr", gyda phroblemau pellgyrhaeddol dal yn amlwg.
Mae'r panel yn cyfeirio at "fylchau sylweddol" yng ngallu'r bwrdd iechyd i ymateb i bryderon teuluoedd.
Mae hefyd yn dweud y bydd newid ymddygiad a diwylliant gwasanaethau mamolaeth a'r bwrdd iechyd yn ehangach yn cymryd amser.
"I grynhoi, er bod arwyddion calonogol o welliannau a'r ffaith bod sylfeini gwelliannau nawr yn eu lle, mae'n rhy gynnar i gynnig y sicrwydd mae'r gweinidog a menywod a theuluoedd y Cwm Taf blaenorol ei angen er mwyn bod yn hyderus bod yr holl welliannau wedi eu cyflawni i gynnig gwasanaethau diogel, effeithiol, wedi eu rheoli'n dda ac wedi eu harwain yn dda."
Yn ogystal â'r 100 o achosion ychwanegol, mae'r adroddiad yn dweud nad yw'r panel wedi penderfynu eto faint o achosion fydd angen eu hystyried fel rhan o adolygiad yn ymestyn yn ôl at 2010.
Heriau o hyd
Collodd Chrystie Jenkins, 33, dri babi yn Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr Tudful.
Dywedodd: "Dyw e ddim yn gwneud gwahaniaeth os ydyn nhw'n newid pethau yn yr ymddiriedolaeth, bod gyda nhw'r staff perffaith yn gwneud eu gwaith yn berffaith.
"Dyw e byth yn mynd i gael gwared ar y boen mae unrhyw un ohonon ni'n mynd trwyddo. Mae e jest yn rhywbeth na alle gael ei ddadwneud."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod sawl cam calonogol wedi eu cymryd ond "bydd angen i'r bwrdd iechyd barhau i ganolbwyntio ar yr heriau sy'n ei wynebu".
"Mae nifer o swyddi allweddol bellach wedi'u llenwi ac mae'r sylfeini wedi'u gosod i raddau helaeth ar gyfer gwelliant parhaus yn y gwasanaethau mamolaeth," meddai.
"Mae'n galonogol bod gwaith y panel gyda menywod, teuluoedd a staff yn parhau i symud yn gyflym ac rwy'n falch bod y bwrdd iechyd yn awr yn cymryd mwy o berchnogaeth o hyn.
"Yn amlwg mae llawer iawn i'w wneud eto i fynd i'r afael â'r materion a'r pryderon sylfaenol a ddaeth i'r amlwg yn y bwrdd iechyd.
"Rwy'n gwerthfawrogi bod hwn wedi bod yn amser anodd iawn i'r holl staff dan sylw. Ond mae'n galonogol i mi weld y modd y maent wedi derbyn yr angen i wneud newidiadau cynaliadwy ar draws y sefydliad, sy'n rhoi safon, diogelwch a phrofiad y claf wrth galon popeth y maent yn ei wneud."
'Mae'n bryd gweithredu'
Ond mae Plaid Cymru, a gyflwynodd gynnig o ddiffyg hyder yn y gweinidog iechyd yn gynharach yn y flwyddyn, yn dweud bod y canfyddiadau'n destun cywilydd.
"Mae'n bryd gweithredu... Dyna mae'r teuluoedd yn ei ddisgwyl a'i haeddu," meddai llefarydd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Plaid Cymru, Helen Mary Jones AC.
"Gyda Chwm Taf mewn mesurau arbennig, swydd y gweinidog iechyd yn llythrennol iawn yw i gyfrannu o'i ymdrech ei hun er mwyn sicrhau'r gwelliannau mae pobl yn eu disgwyl.
"Os nid yw'n gallu gwneud hynny, dylid rhoi'r cyfle i rywun arall wneud."
Yn y cyfamser mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi herio Mr Gething i sicrhau na fydd gwasanaethau Cwm Taf Morgannwg yn mynd i lawr yr un trywydd a rhai Betsi Cadwaladr - a fu mewn mesurau arbennig am rai blynyddoedd.
"Mae'n amlwg nad yw'r llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi llwyddo i redeg bwrdd iechyd gogledd Cymru yn ddigon da ac mae'n bryderus clywed eu bod wedi methu yn eu hymgais i godi gwasanaethau Cwm Taf allan o fesurau arbennig," meddai Mr Davies.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd23 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019